Tudalen:Cwm Eithin.djvu/53

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD III

Y TRIGOLION:
Y GWAS A'R GWEITHIWR

"MAE y gŵr yn ymguraw,
A'i dylwyth yn wyth neu naw:
Dan oer hin yn dwyn y rhaw,—mewn trymwaith;
Bu ganwaith heb giniaw.

Aml y mae yn teimlo min
Yr awel ar ei ewin:
A llwm yw ei gotwm, gwel;
Durfing i'w waed yw oerfel.
Noswylio yn iselaidd,
A'i fynwes yn bres oer, braidd!
Ba helynt cael ei blant cu,
Oll, agos a llewygu !!
Dwyn ei geiniog dan gwynaw;
Rho'i angen un rhwng y naw!
Edrych yn y drych hwn dro,
Gyr galon graig i wylo :
Pob cell a llogell egyr,
A chloiau dorau a dyr."

—"Dewi Wyn o Eifion."[1]

Yr oedd gweision y ffarm fel rheol yn ddynion dichlyn; gweithwyr caled am oriau hirion; yn byw yn galed, ac yn magu teuluoedd lluosog, lawer ohonynt. Dynion geirwir, ond ambell hen gynffonnwr, gonest i'r eithaf yn eu tlodi, ac, feallai oherwydd eu tlodi, ni chaent nemor ddim ar goel gan neb; ni chymerasent lawer am gymryd dim nad oedd yn eiddo iddynt, ond ambell wningen oddi ar y mynydd yr oedd y tirfeddianwyr wedi ei ddwyn oddi arnynt. Os daliai'r hen gipar hwy caent eu dwyn o flaen yr ustusiaid, sef y tirfeddianwyr, ac anfonai y rhai hynny hwy i garchar bron yn ddieithriad. Cofiaf yn dda un o fechgyn gorau'r ardal, fy athro yn yr Ysgol Sul, yn cael ei anfon am fis i garchar Rhuthyn am saethu petrisen. Fel y clywais Dr. Pan

  1. Blodau Arfon, gan "Dewi Wyn o Eifion" (David Owen), Caerlleon,1842.