Jones yn dywedyd pan areithiai ar gwestiwn y tir, "Torrodd dau neu dri o fechgyn Llangollen i berllan afalau yn agos i'r dref; daliwyd hwy, ac fe'u hanfonwyd i garchar gan y 'stisied. Yng nghof rhai o'r trigolion, comin oedd y darn tir lle y tyfai'r coed afalau, y tirfeddiannwr wedi ei drawsfeddiannu a'i gau i mewn. Wrth adael y llys tynnai'r ustusiaid eu hetiau i'r meistr tir, y lleidr mawr, newydd anfon y bechgyn i'r carchar am gymryd eu heiddo'u hunain."
Dechreuai'r gwas a'r forwyn eu diwrnod am chwech yn y bore, ac yng nghynt yn aml, a gweithient yn galed hyd wyth o'r gloch y nos o fore Llun hyd nos Sadwrn.
Os heb fod yn byw yn bell, âi y gweithiwr adre bob nos, gan gyrraedd tua naw, a threulio agos i awr gyda'i wraig a'i blant ; myned i'w wely yn brydlon am ddeg, a chodi tua phump i fyned trwy'r un oruchwyliaeth.
Yn y gaeaf, yn ystod y dyddiau byrion, yr oedd diwrnod y gweithiwr dipyn yn fyrrach; ond byddai'r hogyn gyrru'r wedd wrthi hyd wyth yn torri gwellt a thrin y ceffylau. Treuliai'r gweithiwr y Sul gyda'i deulu fel rheol; ond arferai fyned i'r ffarm i nôl ei ginio. Arbedai hynny dolli ar fwyd y wraig a'r plant; a byddai tamaid o gig i'w gael yno, tra na welid dim yn y bwthyn am wythnosau yn aml.
Fe allai y dylwn egluro, er mwyn ambell un, y gwahaniaeth rhwng gweithiwr a gwas. Dyn wedi priodi, neu wedi sadio, ac yn cyflogi wrth yr wythnos, oedd y gweithiwr, tra yr oedd y llanciau yn cyflogi dros y flwyddyn; ac nid oedd dyn yn weithiwr os byddai'n canlyn y wedd. Câi ambell hogyn newydd briodi gryn anhawster i gael lle i weithio gan nad oedd wedi arfer dim ond gyrru'r wedd. Yr oedd diwrnod hogyn gyrru'r wedd yn hwy na diwrnod y gweithiwr ac yntau ar hast eisiau myned adre at y wraig. Yr oedd braidd yn ddiraddiad i lanc newydd briodi yrru'r wedd. Ond gwelwyd aml un yn troi at y wedd yn ôl, ar ôl blwyddyn neu ddwy o fywyd priodasol—digon o amser i ddeall nad angyles a briodasai, namyn merch ddigon tebyg i'w fam a'i chwaer, ac fe allai yn fwy o hen strempen na'i chwaer. Ar ôl swper ymneilltuai'r gweision a'r hogyn i'r briws am ychydig i blagio'r forwyn, ac yna i'r llofft allan wrth ben y briws neu'r ystabl i lolian am ychydig neu i ddysgu adnod erbyn y Sul; ambell un i ddarllen wrth olau cannwyll, pryd y gosododd seiliau bywyd o wasanaeth a defnyddioldeb, pob un i ofalu am gannwyll yn ei dro. Edrychai'r meistr yn wgus bore drannoeth onid