Tudalen:Cwm Eithin.djvu/55

Gwirwyd y dudalen hon

aent i'w gwelyau erbyn deg. "Ewch i'ch gwlâu gael i chwi godi yn y bore." Er hynny ni feddyliai neb fod y bywyd yn un caled, a difyr oedd yr oriau. Pennod ddifyr iawn a fuasai hanes y llofft allan. Treuliais dair blynedd ynddi, ond chware teg i'r ffermwyr, nid arnynt hwy 'roedd y bai i gyd fod y llanciau yn y llofft allan. Nid oedd lle yn y tai, lawer ohonynt, a'r llofft allan oedd yr orau mewn aml amaethdy, ac yr oedd yn well gan y llanciau gysgu allan o'r hanner nag yn y tŷ. Nid gwaith hawdd iawn i ffarmwr gael gwas i gysgu yn y tŷ oni fyddai ysbryd hen lanc wedi ei feddiannu i wraidd ei enaid. Sut yn y byd mawr y gallai llanc gael cariad os byddai o dan fawd meistr a meistres ddydd a nos? A thrychineb ofnadwy yw i lanc fod heb gariad. Lle y buasai ei anrhydedd llancyddol? Mae pob llanc yn meddwl priodi rywbryd, ni waeth pa mor hen y bo. Credaf y gallaf brofi hyn trwy hanesyn syml. Yng Nghwm Eithin, yn amser fy maboed, yr oedd hen ŵr ar fin ei bedwar ugain yn ffarmio, ac wedi colli ei briod ers llawer o flynyddoedd Bu ganddo housekeeper yn hir, ond collodd honno. Yr oedd ganddo un mab adre heb briodi yn llawn deugain oed, ond yn ddiniweitiach na'r cyffredin ac yn swil iawn, hynod o ffeind wrth bawb. Galwn ef Jos. Ni waeth imi heb roddi ei enw priodol. Yr oedd gen i barch mawr iddo, a thipyn o dosturi tuag ato.

"Jos," ebe'r tad, " rhaid i ti chwilio am wraig, 'neith hi mo'r tro i ni fod fel hyn. 'Does dim posib cael morwyn yrŵan a dim llun arni hi. Chwilia di am wraig, ac mi fydd gen'ti gartre ar ôl i mi fynd." Rhoddodd Jos ei ben i lawr a rhyw hanner gwên ar ei wyneb, a dywedodd, " 'Dydw i ddim yn licio gofyn i'r un o'r genethod briodi."

"Ddim yn licio wir! Lol i gyd! Sut yr wyt ti'n meddwl y darfu i mi briodi?"

Yr oedd Jos â'i ben i lawr ac wedi mynd yn swbach bach i'w gilydd. Atebodd ei dad yn ôl yn derfynol, 'gasai ef. "Wel, ie, ond priodi mam ddaru chwi, ynte? " Ni chafodd Jos wraig. Collodd ei dad ymhen amser, a buan yr aeth stoc ei ffarm a hynny oedd ganddo rhwng y cŵn a'r brain. Bu'n rhaid iddo droi ei gefn ar ei hen gartre, a bywyd tlawd iawn a gafodd yn gweithio ychydig yma ac acw. Pawb yn ddigon ffeind wrtho, ond y rhai a aeth â'i arian.

Yn Llanaled yr oedd chwech o elusendai a rhent ffarm wedi eu gadael i hen wŷr gweddwon neu ddi-briod fel y gellid rhoddi 3/6 yn yr wythnos i bob un at fyw. Gofynnais i un o'm hen