gyfoedion y rheswm na fuasai Jos wedi cael myned i un ohonynt yn ei hen ddyddiau. Atebodd hwnnw, "Fe ddarfum i gynnig iddo gael mynd i un ohonynt pan oedd tua deg a thrigain mlwydd oed, a'i ateb oedd Dydw i ddim yn meddwl y cymeraf ef; rhyw dai digon anfelys ydynt, onid e? Pe bai gan un wraig ni chai ef fyned â hi yno.' Bu fyw i fyned dros ei bedwar ugain oed ar gymorth plwyf a chyfeillion.
Swm cyflog gweithiwr da yng Nghwm Eithin pan gyrhaeddais i yno oedd swllt yn y dydd yn y gaeaf; rhai yn cael dim ond pum- swllt yn yr wythnos. Codai'r cyflog yn y gwanwyn i tua o naw i ddeuddeg swllt, ac ambell bladurwr da yn cael pedwar swllt ar ddeg yn y cynhaeaf, a bwyd. Pan oeddwn yng Nghwm Eithin am seibiant tuag ugain mlynedd yn ôl, euthum o gwmpas rhai o'r brodorion hynaf i holi am hanes y bywyd gwledig yno yn eu cof cyntaf hwy, a beth oedd swm lleiaf y cyflog. Yr hynaf y cefais afael arno oedd Dafydd Roberts, Tŷ'n Rhyd, erbyn hynny yn byw yn y 'Sendy, ac yn gryn gwrs dros ei bedwar ugain pan oeddwn yn siarad ag ef. Meddai gof clir. Wedi cyfarch ein gilydd, aethom dros aml hanesyn y cofiwn i amdano pan oeddwn yn hogyn ac yntau yn ei anterth yn gweithio yn y cylch. Onid peth hyfryd yw cyfarfod ambell hen ŵr yr arferech fod yn dipyn o law gydag ef pan oeddych yn hogyn bach—un yr arferech edrych i fyny ato yn nyddiau plentyndod, dyn a fedr wneuthur ichwi feddwl ei fod ef yn meddwl llawer ohonoch, ac yn gallu rhoi argraff ar eich meddwl pan oeddych yn llabwst o hogyn, os yw'r gair "llabwst " yn gywir am un nad aeth o byth yn fawr, ei fod yn credu eich bod yn ddyn, ac yn ymddwyn atoch felly mewn gwirionedd? Ond dyna ffordd llawer ohonom i fesur dynion ar ôl tyfu i fyny. Y dyn iawn yw'r un a wna dipyn o helynt ohonom ni, a'r dyn sâl yw'r un na wêl ein mawredd ni. "Cam neu gymwys," yr oedd Dafydd Roberts yn fy llyfrau i, ac y mae'n para i fod er wedi ein gadael ers tro. "Faint ydych chwi yn cofio oedd y cyflog i rai yn gweithio efo ffarmwrs, Dafydd Roberts?" meddwn wrtho. "Yr ydw i yn cofio 'nhad yn gweithio yn Tai Ucha'r Cwm, pan oedden ni yn blant, ac yn byw yn Llidiart y Gwartheg, am rôt yn y dydd; dau swllt yn yr wythnos." "Wel, sut yr oeddych chwi yn byw?" meddwn innau.
"Mi ddeuda wrtha ti, a 'does gen i ddim cywilydd deud wrtha ti, Huw bach. Mi fyddwn i a fy chwiorydd yn gorfod troi allan i hel ein bwyd cyn cynted ag y gallem fyned o gwmpas. Amser caled ofnadwy oedd hi yr adeg honno; ond yn ara deg fe ddaeth