Tudalen:Cwm Eithin.djvu/57

Gwirwyd y dudalen hon

pethau yn well. Mae hi yn wahanol iawn yrwan; ydi, ydi.' Cyfeiriai Dafydd Roberts felly at y blynyddoedd tua 1836-1840, pan oedd ei dad a'i fam a phump neu chwech o blant yn byw yn Llidiart y Gwartheg ar ddau swllt yn yr wythnos. Yna gelwais gyda hen ewythr, Thomas Williams, oedd nifer o flynyddoedd yn iau, a'r perthynas agosaf yn fyw i "Jac Glan y Gors.' Gofynnais yr un cwestiynau iddo yntau. "Yr ydych wedi gweithio yng Nghwm Eithin ar hyd eich oes," meddwn. "Do," ebe yntau, "hyd o fewn ychydig o fisoedd yn ôl. Bu raid i mi ei rhoi hi i fyny." "Beth oedd y cyflog y ffordd yma," meddwn, "pan ydych chwi yn cofio gyntaf, cyflog dynion, nid cyflog hogiau?" "Wyth geiniog yn y dydd a'u bwyd oedd dynion yn gael," meddai, "pan oeddwn i yn hogyn, a pharhaodd felly yn bur hir. Bûm i yn gweithio am wyth geiniog y dydd pan oeddwn wedi troi ugain oed, ac yr oedd yn anodd iawn cael gwaith. Ond yr oeddwn i yn gweithio yn y Bwlch gyda chefnder i 'nhad, Robert Jones, brawd "Jac Glan y Gors"; ac 'roeddwn yno pan fu farw. Ymhen amser daeth cyfnewidiad, a chododd y cyflog yn sydyn i swllt yn y dydd, ac yr oedd siarad cyffredinol am y cyflogau uchel, a beth a ddeuai o'r ffermwyr druain, lle yr oeddynt yn mynd i gael arian i dalu'r fath gyflog." "Beth a fu'r achos o'r codiad?" meddwn. "Wel," meddai yntau, "dechreuodd y dynion fyned i'r gweithydd glo tua'r Cefn, ac agorodd chwareli Stiniog, ac aeth nifer yno. Daeth gair fod rhai yn cael cryn bunt yn yr wythnos yn y ffwrnes fawr a gwaith haearn Brymbo. Ni choeliai neb y fath beth am amser, ond gan y mynych gyrchai y llanciau i stesion Tŷ Coch i nôl glo, bu raid credu cyn hir."

Cyflog llanc yn canlyn y pen gwedd yr adeg y soniaf amdani oedd tua £9, eiddo ail wagnar tua £5/10/-, a hogyn £1/10/-. Yr unig wyliau a gâi gweision ffermwyr ar hyd y flwyddyn oedd dydd Nadolig a diwrnod ffair gyflogi.

Fe wn i yn dda y gellid prynu llawer yn ychwaneg am swllt nag a ellir yn awr, a hefyd fod gan y tlawd aml ffordd i gael tamaid na ŵyr pobl yr oes olau hon ddim amdani. Ond caf ddisgrifio'r rhai hynny yn y bennod ar "Frenhines y Bwthyn." Yr oedd ganddi hi lawer i'w wneuthur i gael bwyd i'r plant. Fe wn hefyd yn dda fod gwell teimlad rhwng gwas a meistr yn hanner cyntaf y ganrif ddiweddaf, ac mai trychineb mawr i'r gweithiwr tlawd oedd i "F'ewythr a Modryb"g ael eu disodli gan "Mistar a Meistres." Ond er cofio'r cyfan, byd caled oedd byd y gweith-