iwr. Onid oedd hi yn dywyll i edrych ymlaen at hen ddyddiau? Ofn myned i'r "House"! Bu'n well gan gannoedd farw o newyn na myned i'r "House." Yr oedd cymorth o'r plwy bron yn amhosibl ei gael, ac yn druenus o fychan pan geid ef. Ni wn pa bryd y pasiwyd deddf fod y meibion i ofalu am eu rhieni, ond cofiaf yn dda ddynion heb fod yn ennill ond o 9/- i 12/-, a gwraig a phump neu chwech o blant ganddynt, yn cael eu gwysio o flaen yr ustusiaid a'u gorfodi i dalu 1/- neu 2/- yn yr wythnos at gynnal tad a mam mewn henaint. A dioddefodd aml hen ŵr a hen wraig eisiau cyn myned i gwyno rhag tynnu eu meibion i helynt, a myned â rhan o fwyd eu hwyrion oedd eisoes yn ddigon prin.
Yr oedd yn rhaid i'r gwas a'r gweithiwr aros allan bron ar bob tywydd, glaw a hindda, a dyfod adre gyda'r nos yn wlyb at y croen. Câi'r gweithiwr sychu ei ddillad bob nos a'u cael yn sych i'w rhoddi amdano yn y bore os byddai mewn cyfle i fyned adre y nos. Ac mewn llawer ffarm, câi'r gwas eu sychu o flaen y tân yn y briws neu'r gegin, lle byddai gwraig a rhyw gymaint o ddynoliaeth ynddi Ond mewn aml le, yr oedd yn rhaid eu hongian yn yr ystabl neu 'r llofft allan i sychu. Yr oedd yr ystabl yn lle go lew i hynny, gan fod gwres y ceffylau yn twymno'r lle. Ond, er ceisio cadw dillad i newid, aml y byddai raid gwisgo yn y bore mewn rhai heb fod yn sych. Felly nid rhyfedd fod y dynion yn edrych yn hen cyn cyrraedd canol oed. Mae pethau wedi gwella'n fawr yn y cyfeiriad hwn.
Arferai paganiaid duon India fyned â hen bobl i lan afon Ganges i farw. Nid rhyw lawer iawn mwy anghristionogol oeddynt na'r tirfeddianwyr oedd yn gwneuthur cyfreithiau Prydain Fawr. Pwy sydd yn cofio'r pethau hyn nad yw yn barod i ganmol y Cymro dewr o Gricieth am Old Age Pensions? Mae Cân Hen Wr y Cwm, gan "Gweryddon," yn adrodd profiad hen weithiwr tlawd i'r dim:
"Wel dyma ŵr a'i dŷ ymhell, |