PENNOD IV
Y TRIGOLION:
Y FORWYN A'R YMBORTH
YN ffermydd mwyaf Cwm Eithin ceid pen forwyn, yr ail forwyn, a'r hogen. Disgwylid i'r pen forwyn allu gwneud menyn, pobi, golchi, smwddio, ceulo a gwneud caws, yr ail forwyn i'w chynorthwyo a dysgu pob gwaith i'w pharatoi ei hun i gymryd lle'r ben forwyn ei hunan. Oherwydd wedi i un gyrraedd safle pen forwyn, yr oedd wedi cyrraedd oedran priodi, oni byddai ysbryd hen ferch yn ei chorddi. Cryn anrhydedd i lanc oedd cael pen forwyn yn briod. Yr oedd yr ail forwyn i edrych ar ôl y moch a'r lloeau, a gofalu rhoi bwyd i'r naill a gwlyb i'r lleill yn ei bryd, er y gofalai pob un ohonynt alw ei sylw at y ffaith ei bod yn amser. Golygfa arddunol iawn yw gweled y forwyn â bwcedaid o fwyd moch ym mhob llaw, a gwialen o dan ei chesail, a deg neu ddwsin o foch newynog o'i chwmpas am yr uchaf yn ei ffordd ei hunan yn gofyn bendith ar y bwyd. Yna myned a gwlyb i'r lloeau, a phob un ohonynt yn gwylied amdani i roddi hergwd iddi hi a'i bwced, a cholli'r gwlyb am ben ei blouse neu ei jumper—O nage, ei ffedog fras. Gwaith yn gofyn medr neilltuol yw dysgu llo bach i ddechrau cymryd ei wlyb; rhaid i'r eneth roi ei llaw yn ei geg; ond y mae ganddi hyn o gysur, ni raid iddi wisgo menyg i lanhau y grât, oherwydd fe ofala y llo bach am gadw'i llaw yn wen a sidanaidd, trefn natur i gadw llaw yr eneth o forwyn yn dyner ac esmwyth.
Dywedid pethau doniol iawn am rai o'r merched smart yr oedd y Llywodraeth yn eu hanfon o gylch y wlad i ddysgu'r ffermwyr sut i wneud eu gwaith amser y rhyfel. A diau mai golygfa ddiddorol dros ben a fuasai gweld merch ieuanc o'r dref yn rhoddi gwlyb i lo bach heb ddysgu ei gymryd ei hunan.
Yr oedd yr hogen at alwad pawb, ac i gynorthwyo ac i'w gwneud ei hun yn ddefnyddiol, a gofalu ychydig am y plant os byddai rhai. Ond y mae yn syndod mor ychydig o ofal sydd yn angenrheidiol am blant yn y wlad; mae ynddynt ryw reddf i ofalu amdanynt eu hunain na fedd plant tref mohoni, yn enwedig y rhai moethus ohonynt. Yn ychwanegol at waith tŷ, arferai y morynion odro, taenu ystodiau, troi a chyweirio gwair, casglu