a chribinio, myned ar ben y das i helpu'r taswr, ac yn aml ddadlwytho, gafra, a chodi'r ŷd. Gwaith caled i'r cefn oedd gafra, a golwg ddigon digalona fyddai ar aml eneth â chroen go denau, pan fyddai'r ŷd yn llawn ysgall; ond rhaid oedd gafael ynddo, a gellid torri llewys hen fetgown go dew wedi ei droi heibio, neu hen got Bob, y gwas, i'w rhoddi am y breichiau. Cofiaf y gallai Morris Llwyd afra ŷd yn llawn o ysgall wedi torchi ei lewys a gwasgu'r afr â'i freichiau noeth. Hwsmon oedd ef ac ar y blaen yn torri byddai, ond dangosai i'r bechgyn a'r genethod yn awr ac eilwaith sut i wasgu gafr yn llawn ysgall i'w mynwes. Gofalai y wraig am wneud bwyd yn ystod y cynhaeaf, a chyfarwyddai'r genethod i'w wneud amser arall.
Bywyd caled oedd bywyd gwas ffarm, llawer caletach a chaethach oedd bywyd y forwyn. Rhaid oedd iddi hi godi hanner. awr wedi pump i alw ar y llanciau, golau tân, cael y llestri godro'n barod erbyn y deuai'r gwartheg i'r fuches, ac yna byddai ar drot o'r bore gwyn tan nos.
Prin y cai hamdden i fwyta; a phan ddeuai adeg noswylio byddai'n rhaid iddi hi glirio a golchi llestri swper ar ôl i bawb arall orffen, ac ni feiddiai neb ddyfod i'w swper cyn wyth. Pe deuai un dri munud cyn wyth, edrychai y meistr ar y cloc ac yn wgus iawn ar y troseddwr, ac yn ddigon aml byddai hen gynffonnwr yn y fintai, hen gwmon feallai, yn hwyr yn dyfod i swper; ni fyddai ef wedi meddwl ei bod yn wyth o'r gloch, yr amser wedi mynd heb iddo ef gysidro. Ac ni fyddai cymaint o frys i fwyta swper. Byddai gan y meistr hamdden yr adeg honno i ofyn barn yr hwsmon am y tywydd; a beth a fyddai orau i fyned ato yn y bore, a châi y gwas bach gyfle i roi ei big i mewn os byddai yn un go ffraeth. A cheid hamdden i chwerthin. Felly âi yn naw cyn y byddai'r morynion wedi gorffen eu gwaith; ac os byddent yn ymolchi ac yn gwneud eu gwallt ar ddiwrnod gwaith, ni wn pa bryd y gorffennent. Hyn a wn i, a welais â'm llygaid ac a glywais â'm clustiau: dwy eneth o forwyn yn eistedd i lawr wedi gorffen eu gwaith am ugain munud wedi naw, yn goleu cannwyll frwyn i ddarllen, un Drysorfa Plant, a'r llall ryw lyfr arall nas cofiaf yn awr. Yr oedd yno doreth o lyfrau. Ugain munud i ddeg union ar y cloc clywn y meistr yn gweiddi, "I'ch gwlâu, enethod! Fe fydd digon o drafferth i'ch codi chi yn y bore, mi wn." Yr un peth drachefn ym mhen rhyw bum munud. Troesant hwythau y cŵn allan, ac i fyny y grisiau â hwy. Gallai fod yr uchod dipyn yn eithriadol; ond y ffaith oedd na welodd llawer meistr ddim ond