Tudalen:Cwm Eithin.djvu/64

Gwirwyd y dudalen hon

gwaith a gwely ei hunan, ac ni ddaeth i'w feddwl o gwbl fod ar na morwyn na gwas, na merch na mab, angen dim oriau hamdden. "I'ch gwlâu gael ichwi godi yn y bore," oedd y peth pwysig. Ystyrrid £3/10/o yn gyflog da i forwyn.

Ceid rhagor o hamdden yn y gaeaf. Pan fyddai'r dydd yn fyr byddai swper yn gynharach, a thipyn o orffwys cyn swper. Nid yw'n beth i synnu ato y byddai llawer o'r genethod yn bur anodd eu codi yn y bore; ac ni ddylasai Williams Pant y Celyn synnu llawer iddo fethu â deffro geneth o forwyn i nôl cannwyll iddo un tro. Dywedir y byddai'r hwyl canu yn dyfod drosto yn y nos yn aml pan fyddai oddicartref; ac wedi canu pennill yn ei gwsg neu yn effro byddai yn awyddus i'w ysgrifennu cyn iddo fyned yn angof. Un tro arhosai mewn ffarm ddieithr; daeth yr hwyl ato, a cheisiodd ddeffro'r hogen i nôl golau iddo. Mae'n debyg nad oedd matches yr adeg honno; ond methiant glân fu ei ymgais, a chanodd y pennill doniol a ganlyn iddi:

Mi wela'n awr yn eglur,
Ped elai clychau'r Llan,
A rhod y felin bapur,
A gyrdd y felin ban,
A'r badell fawr a'r crochan
Yn twmblo drwy y tŷ
A'r gwely'n torri tani,
Mai cysgu wnelai hi.

Yr oedd yn beth priodol i forwyn weu a gwnïo, a darllen y wers at yr Ysgol Sul, ac ehangu ei gwybodaeth gymaint ag a allai. Ni welais neb yn crosio yno. Credaf y gwyddai yr hen drigolion rywbeth amdano, ond na feddylient lawer o'r gwaith, oherwydd os ceid y genethod yn symera, clywid ambell hen fam yn gweiddi, "By be ydych chi'n neud yn y fan yna yn gweu lasie?" Nid wyf yn cofio bod yno yr un piano yn y Cwm i neb ei ganu; yr oedd yno ambell delyn. Yr organ gyntaf a welais oedd yr un yr âi William Thomas, Pentrefoelas, â hi o gwmpas y wlad mewn cerbyd i gadw cyngherddau.

Yng Nghylchwyl Lenyddol Caergybi, Nadolig 1859, cynigiwyd gwobr am Nofel Gymraeg yn disgrifio'r Llafurwr Cymreig. Enillwyd y wobr gan "Llew Llwyfo," a rhoddir gair uchel iawn i'r gwaith gan y beirniad," I. D. Ffraid." Ond ymddengys i mi fod y "Llew" wedi bod yn fwy llwyddiannus i ddisgrifio