Tudalen:Cwm Eithin.djvu/65

Gwirwyd y dudalen hon

pethau salaf gwas ffarm na'i bethau gorau; a phe buaswn wedi darllen Huw Huws[1] pan oeddwn was ffarm cyn i'r "Llew" ddyfod ar ei daith gyngherddol, ef, ac "Ap Madog," a "Iago Pencerdd," os cofiaf yn iawn, nid wyf yn meddwl yr aethwn i wrando arno yn canu. Ond â'i ddisgrifiad o fywyd yr eneth o forwyn y mae a fynnwyf yn awr. Os yw y disgrifiad a rydd y "Llew" o fywyd yr eneth o forwyn ym Môn, ac yn enwedig ei ddisgrifiad o'r fel yr ymddygid ati ddiwrnod ffair gyflogi, agos yn gywir, rhaid bod gwareiddiad rhai rhannau o Gymru yn anhraethol is na gwareiddiad Cwm Eithin. Yr oedd y forwyn yn barchus yng Nghwm Eithin yn yr hen amser gynt. Os oedd ei gwaith yn galed, ei diwrnod yn hir, a'r bwyd yn blaen, ni welid harddach merched yn unman na gennod Cwm Eithin, "Morynion glân Meirionnydd.'

YMBORTH

Ni ellir cyhuddo trigolion Cwm Eithin o lythineb. Cofier hefyd nad oedd y bwyd a osodid ar y ford gron o flaen y tân ddim yn wahanol yn amser F'ewyrth a Modryb, ac nad oedd ond ychydig iawn yn well ar ddyfodiad cyntaf Meistr a Meistres i deyrnasu. Byddent hwy yn cael te a lliain ar y ford. Rhoddaf restr o'r prydau yma. Caent frecwast tua saith, cinio hanner dydd, tamaid bedwar o'r gloch, a swper ar ôl noswylio. Yr oedd mainc o'r tu ôl i'r bwrdd mawr i'r dynion eistedd i gael eu bwyd. Yr hwsmon yn dyfod i mewn yn gyntaf, ac yn eistedd ym mhen draw'r fainc. Byddai'r hwsmon, fel rheol, yn ddyn iach, cryf, ac yn fwytawr cyflym os oedd yn deilwng o'r enw. Yr amser priodol i'w gymryd i fwyta pryd o fwyd oedd chwarter awr. Pan eisteddent wrth y bwrdd i frecwast, dyweder, y peth cyntaf a wnâi pob un oedd gosod ei benelin chwith ar y bwrdd a'i ben i orffwys ar ei law, a thynnu y tancar â'i lond o faidd neu frowes i'w hafflau o dan ei enau, a chyda llwy haearn neu bren codai'r maidd i'w enau yn gyflym a llynciai ef mewn dim amser; yna torrai'r hwsmon glyffiau o'r dorth haidd, ac ychydig o'r cosyn, ac yr oedd y bara ceirch a selen o 'fenyn yn y cyrraedd, a thyn pig a'i lond o laeth enwyn i bawb yfed yn ei dro. Yn union deg, edrychai'r hwsmon ar hyd y rhes i weled a oedd pawb wedi gorffen ac yna gwthiai bawb

  1. Huw Huws; neu, Llafurwr Cymreig, gan "Llew Llwyfo," 1860