Tudalen:Cwm Eithin.djvu/66

Gwirwyd y dudalen hon

allan o'i flaen, ac aent oll at eu gorchwyl. Pan ganai'r corn cinio, eid trwy'r un drefn; llond tancar o botes, a hwnnw yn ddigon di-lygaid yn aml, yna darn o beef neu mutton hallt wedi ei ferwi. Yr oedd yn flasus a maethlon. Dro arall ceid lwmp o facwn melyn bras. Ceid pwdin reis neu dymplen eirin i ginio yn y cynhaeaf a diwrnod yr injan, a chaniatâd i orffwys am awr ar ôl cinio, ond bod yr amser a gymerid i fwyta yn cael ei dynnu o'r awr. Ni cheid gorffwys ddiwrnod cario. Tamaid gelwid y pryd a alwn ni yn de; tua phedwar o'r gloch, byddai llond tancar mawr o siot oer neu gynnes, fel y byddai'r tywydd, neu fara llaeth. Byddai'r caws a'r ymenyn ar y bwrdd a llond y tyn pig o laeth enwyn. Ond byddai raid clirio'r tancar cyn estyn at y caws a'r 'menyn, neu ceid clywed gair o dafod drwg y feistres yn bur fuan. A job ofnadwy i lawer un fel myfi oedd hynny'n aml, gan mor llawn y llenwid hwy. Yr unig ffordd i gael allan o hynny oedd gwneuthur ffrind o'r forwyn, a cheid aml un dyner- galon yn eu mysg. Pan welai un bron â thorri ei galon wrth ben ei dancar, ysgubai ag ef i'r briws a'i gynnwys i hocsied fwyd moch cyn y byddai'r feistres wedi cael hamdden i droi rownd. Diolch am hogen o forwyn ffeind, rhodd fawr i aml hogyn gwan ei stumog. Ond yr oedd ambell hen genawes yn eu mysg hwythau. Eu hyfryd waith oedd dangos y sbâr yn y tancar i'w meistres, a chael y llanciau i helynt. Ceid un cwpanaid o de mewn ambell le os byddai'r wraig yn un garedig, ac un frechtan wen neu ganthreg i de ddydd Sul; a byddai rhyw fath o bwdin i ginio ddydd Sul. Uwd, llymru, neu faidd bron bob amser i swper. Ni thyfid nemor ddim gwenith yn y rhan o Gwm Eithin lle y trigiannwn i, ac ni welid tamaid o fara gwyn ond ar y Sul o un pen i'r flwyddyn i'r llall, dim ond bara ceirch a bara haidd.

Yr oeddwn yn casáu bara ceirch pan oeddwn yn hogyn, gallwn fwyta fy ngwala o fara amyd, a dywedir mai dyma'r rheswm fod fy ngwep mor llwyd. Cofiaf un gaeaf yn dda iawn ar ôl cynhaeaf drwg a'r haidd yn fall. Anfonodd fy hen ewythr yr haidd i Gruffydd yr Odyn ei grasu cyn ei falu, i dreio gwneuthur bara ohono; ond wedi ei falu a'i bobi, yr oedd fel toes neu yn ôl dywediad y trigolion, yr oedd fel plwm; gwythiennau gleision yn rhedeg drwyddo. Yr oedd y bara ceirch yn well ond ni allwn ei gyffwrdd. Gaeaf i'w gofio oedd hwnnw, ond rhyfedd fel y deuthum trwyddo. Yr oedd y tatws yn dda, a'r llaeth a'r maidd; a byddwn yn cael gafael ar ambell wy a'i ferwi