Tudalen:Cwm Eithin.djvu/67

Gwirwyd y dudalen hon

wrth ferwi col haidd i'r ceffylau, a byddai Mary y forwyn yn celcio ambell ddarn o gaws i mi. Rhyfedd ac ofnadwy oedd troeon yr yrfa.

Wedi i mi fod yn sôn am fwyd plaen, bwyd Cwm Eithin, diau y daw rhai i'r casgliad mai ychydig iawn oedd yr amrywiaeth. Ac felly yr oedd mewn llawer lle. Yn aml byddai'r dynion wedi laru'n lân ar botes. Cofiaf streic mewn un ffarm, y gyntaf y clywais erioed sôn amdani, yn erbyn potes-tanceri mawr wedi eu llenwi y naill ddydd ar ôl y llall. Ond y mae'n syndod gymaint o amrywiaeth a ellir ei wneud mewn bwyd llwy ond cael gwraig yn gogyddes fedrus, a chanddi galon hawddgar a da, awyddus i wneud tamaid blasus. Ni wyddai trigolion Cwm Eithin ddim am confectionery. Yr oedd dwy ddefod ymysg y gwragedd, pan roddid prawf ar eu gallu i baratoi gwledd, megis gwneud torth frith, ychydig o lightcakes neu gacen ar y radell. Prin yr oedd jam wedi ei eni. Y ddefod gyntaf oedd pan fyddai pâr wedi priodi. Ymhen ychydig ddyddiau âi holl wragedd y cylch yn finteioedd o bump neu chwech i edrych amdani hi fel y dywedid, sef am y wraig ieuanc, ac âi pob un â rhyw bresant gyda hi, o chwarter o de i fyny, yn ôl eu hamgylchiadau. Ai'r gwragedd tlodion yn eu tro. Nid oedd yn beth gweddus i neb beidio â myned, a byddai y rhoddion yn ychydig gymorth i'r cwpwl ieuanc gychwyn eu byd. Yr ail ddefod oedd " mynd i wledda." Digwyddai honno pan enid geneth neu hogyn i'r byd; âi gwragedd yn yr un drefn a chyda rhoddion cyffelyb. Yr adegau hynny ceid ychydig foethau; ond yr arfer gyffredin oedd cael nifer o wics o siop Siân Jones, eu tostio a'u gosod i nofio mewn 'menyn, a dywedyd "C'raeddwch ato fo, ma'n drwg gen i nad oes yma ddim byd gwell i'w gynnig ichi"; a dywedyd ar ôl iddynt orffen "nad oeddynt wedi bwyta dim," er y byddai dwsinau o wics wedi diflannu. Paham y galwyd y ddefod gyntaf yn edrych amdani hi," a'r ail yn "wledda," nis gwn. Pe buaswn i yn eu henwi, newidiaswn y drefn, ond y gwragedd a ŵyr orau.

Ond sôn yr oeddwn am ymborth beunyddiol teulu'r ffarmwr, a'r amrywiol fathau o fwyd llwy, &c., a ellid eu gwneud. I ddangos hynny ni allaf wneud yn well na rhoi hanes swper Beti Jones Ceunant. Llawer tro y cawsom ni y plant ef ar draws ein dannedd: "Mae isio'ch gyrru chi at Beti Jones y Ceunant garw iawn, dyna ddoi â chi at eich cacen laeth." Digwyddai hynny bryd swper, pan ofynnai ein mam : "Beth sydd arnoch chi