Tudalen:Cwm Eithin.djvu/68

Gwirwyd y dudalen hon

isio i swper heno, blant, gael i chi fynd i'ch gwlâu?” Gofynnem ninnau un am y peth yma a'r llall am y peth arall; a phan na fyddai ein mam mewn hwyl i wneud rhagor nag un math o fwyd, dyna a glywem: "Mae eisieu eich anfon at Beti'r Ceunant."

Yr hanes oedd fod Beti Jones wedi hen flino yn coginio gwahanol fwydydd i'r plant. Yr oedd ganddi bump ar hugain ohonynt, ac ar bob un eisiau rhywbeth gwahanol i'w swper. Cymerodd yn ei phen y rhoddai ddiwedd ar yr helbul, trwy ffordd wreiddiol o'i heiddo ei hun. Dechreuodd ofyn i'r plant, o'r hynaf hyd yr ieuengaf, beth a gymerent i'w swper, ac aeth drwyddynt oll yn y drefn a ganlyn:

"Robin, be gymi di i dy swper heno?" "Uwd."
"Nel, be gymi di?" "Siot."
"Mari, be gymi di?" "Posel."
"Dic, be gymi di?" "Bara llaeth cynnes."
"Sian, be gymi di?" "Maidd."
"Twm, be gymi di?" "Llymru."
"Sionyn, be gymi di?" "Siot oer."
"Cit, be gymi di?" "Bara llefrith."
"Dei, be gymi di?" "Potes gwyn."
"Abraham Ephraim, be gymi di?" "Bara mewn diod fain."
"Jacob Henry, be gymi di?" "Tatws a llaeth."
"Hannah Deborah, be gymi di?" "Griwel blawd ceirch."
"Ruth Salomi, be gymi di?" "Picws Mali."
"Charles Edward, be gymi di? ""Potes pig tegell."
"Humphrey Cadwaladr, be gymi di?" "Maidd torr."
"Claudia Dorothy, be gymi di?" "Brywes dŵr."
"Margaret Alice, be gymi di?" "Posel dŵr."
"Goronwy, be gymi di?" "Bara llaeth oer."
"Arthur, be gymi di?" "Brwchan."
"Blodwen, be gymi di ?" "Potes."
"Gwladys, be gymi di?" "Siot bosel."
Rhys, be gymi di?" "Brywes."
"Corwena, be gymi di?" "Gruel peilliad."
"Caradoc, be gymi di ?" "Bara llaeth wedi ei grasu."
"Llewelyn, be gymi di, fy myr i?" "Mi gyma i uwd yr un fath â Robin."