Tudalen:Cwm Eithin.djvu/69

Gwirwyd y dudalen hon

"Da machgen i. Mae Llewelyn am fynd yn ddyn."
"Nage, mi gyma i faidd 'r un fath â Siân. Nage,
llymru'r un fath â Twm." "Ceith o, ngwas i."

Ar ôl derbyn yr holl gyfarwyddiadau, ymneilltuodd Beti i'r briws, yn hollol dawel, heb ddywedyd y drefn fel arfer, yr hyn a barodd gryn syndod i'r plant, nes peri iddynt edrych ar ei gilydd yn awgrymiadol, a cheisient ddyfalu beth a allai fod. Bu Beti yn y briws am gryn amser yn paratoi y gwahanol ddysgleidiau. Ymhen encyd daeth yn ei hôl i'r gegin a'r badell dylino yn ei breichiau, a gosododd hi ar ganol y bwrdd mawr, yna dechreuodd gario'r tanceri a'u cynnwys i mewn, dau ym mhob llaw. Ar ol dyfod â hwy i gyd ar y bwrdd tywalltodd gynnwys pob un i'r badell. Ar ôl gorffen, cymerodd yr uwtffon a throdd gynnwys y badell fel yr arferai droi yr uwd â holl nerth ei braich, nes oedd wedi ei gymysgu'n dda. Yna cymerodd y tanceri, a chyda chwpan glust llanwodd hwy o un i un, rhai yn hanner llawn a rhai tua thri chwarter llawn, a rhai yn llawn hyd yr ymyl, yn ôl gwybodaeth fanwl Beti o allu'r plant i glirio eu bwyd. Dechreuodd eu gosod yn un pen i'r bwrdd lle yr eisteddai Robin, ac aeth ar hyd un ochr i'r bwrdd rownd un talcen ac ar hyd yr ochr arall lle'r oedd meinciau. Edrychai'r plant yn wirion arni gan feddwl ei bod wedi drysu. Yna gafaelodd Beti yn yr uwtffon; cododd hi uwch ei phen, t'rawodd ei throed yn y llawr a'r bwrdd â'i dwrn, a gwaeddodd gydag awdurdod:

"At eich swper bob un, a'r un gair o geg yr un ohonoch. Bwytewch eich swper bob tamaid; mi ddysga i chwi gymryd be gewch chi i'ch swper. Welsoch chi rotsiwn beth â'r plant, deudwch? Beth ydech chi'n feddwl ydw i?"

Ymlusgodd pob un yn araf i'w le, a gosododd pob un ei benelin chwith ar y bwrdd, a'i ben i orffwys ar ei law, gan hel ei dancer o dan ei enau. Golygfa i'w chofio oedd honno. I dorri ar yr unffurfiaeth, digwyddai nad oedd llaw ddehau pob un o'r plant yr un ochr, felly, yn lle bod pob un â'i wyneb at wegil y nesaf ato, gwelid weithiau ddau â'u hwynebau at ei gilydd, a dau arall wedi troi eu cefnau at ei gilydd fel pe wedi syrthio allan. Golwg athrist oedd arnynt oll. Buont yn hir fwyta, gan edrych o dan eu cuwch dros ymyl y tancer a oedd ffordd o waredigaeth. Ond safai Beti yn ddisyfl wrth dalcen y bwrdd