â'r uwtffon i fyny gan wasgu ei dannedd. Disgwyliai Beti eu clywed yn crafu gwaelod y tancer â'r llwy bren. Cyrhaeddodd ambell un yn agos i'r gwaelod; ond cyn hir gwelai Beti glustiau ambell un yn dechrau gwynnu. Gwaeddodd hithau, "I'ch gwlâu bob un," ac yn sicr ni fu gwell ganddynt erioed fyned i'w gwlâu na'r noson honno.
Pan fygythid swper Beti arnom, arferem swatio ar unwaith, a chymryd a gaem, er y gwyddem yn bur dda ynom ein hunain na fuasai ein mam yn cymryd llawer am roi swper Beti'r Ceunant i ni. Yr oedd y frân wen wedi ein hysbysu na chymerasai Beti lawer am wneud yr un peth eilwaith, oherwydd Robin, Siân a Thwm oedd yr unig rai a allodd godi i odro bore drannoeth. Bu llu ohonynt yn eu gwlâu am ddyddiau. Bu agos i nifer o'r plant canol golli'r fatel, oherwydd yr enwau a roddodd Beti arnynt a'r bwyd a roddodd iddynt. Ond er credu stori'r frân wen ni fu gennym erioed ddigon o wroldeb i sefyll dros ein hawliau i gael y peth a fynnem i'n swper. Ymostwng i'r trefniadau y byddem bob amser.