Tudalen:Cwm Eithin.djvu/73

Gwirwyd y dudalen hon

Pandy" y galwem ni ef, am y gwyddem mai mab Pandy'r Glyn ydoedd. Nid wyf yn meddwl i Jac y Pandy gael bwyd gan neb oherwydd eu bod yn hoff ohono, na chael llawer o dosturi; ond câi er mwyn cael 'madael ag ef. Yr oedd wedi dysgu ei grefft yn ardderchog.

Jac Lanfor yw'r nesaf. Hen greadur rhadlon a diniwed ddigon. Câi groeso a gair caredig ymhobman. Nid oedd ei ystad ef agos gymaint ag un Jac y Pandy—tua hanner dwy sir oedd ei maint. Felly byddai ei ymweliadau ef lawer mynychach. Cymerai ambell ffarmwr yn ei ben, pan ddeuai Jac ar ei daith adeg cynhaeaf, i wneuthur iddo weithio ychydig am ei fwyd, ond yr oedd hynny bron yn amhosibl. Os ceid ef i'r cae byddai yn waith mawr ei gadw yno am ddarn o ddiwrnod. Diflannai o'r golwg. Er wedi ei fagu yn Llanfor yn ymyl tref y ddau goleg, nid oedd fawr o ddiwinydd. Aeth y Parch. Michael Jones, prif athro un o'r ddau goleg, i dreio dysgu tipyn arno un tro, trwy yr hen ddull o holi ac ateb—cateceisio. "Beth ydi cyflog pechod, Jac?" ebe'r Athro. "Wn i ddim wir, syr. Beth ddyliech chwi am ddeunaw yn y dydd a'i fwyd ei hun iddo fo?" ebe Jac. Diwrnodiau cinio Clwb yr Oddfellows oedd ei wleddoedd mawr, oherwydd yr oedd yn ddawnsiwr pur dda, a châi groeso a chyfle i dynnu'r crych o'r croen. Yr oedd Jac y Pandy ac yntau yn elynion anghymodlawn i'w gilydd—o'r hyn lleiaf, yr oedd Jac y Pandy yn elyniaethus iawn i'r llall. Nid âi i mewn i'r un ty tafarn ag ef, ac nid âi i ffwrdd oddi wrth y drws chwaith. Cofiaf un tro yn dda fod Jac Lanfor yn dawnsio yn y Cymro Inn, a phethau yn mynd yn hwyliog iawn, a landiodd Jac y Pandy wrth y drws, a deallodd fod y mab afradlon yn y wledd. A phan glywodd y cwmni fod y mab hynaf o'r tu allan, anfonwyd deiseb i geisio'i gael i mewn, oherwydd gallai yntau ddawnsio, a thybid, pe ceid y ddau i ddawnsio gyda'i gilydd, y buasai'r wledd yn un fythgofiadwy. Ond er i'r ddeiseb gael ei hanfon ddwywaith neu dair, gwrthododd yn bendant, a chwyrnai a bygythiai, ac yr oedd ei sŵn fel sŵn injan ddyrnu yn y pellter. Safodd yno'n stond hyd ddiwedd y sbleddach; a bu'n rhaid anfon convoy i fyned â Jac Lanfor i un o gywlasau'r gymdogaeth, ac wrth lwc yr oedd un yn teithio tua'r gogledd a'r llall tua'r dehau, felly ni ddaethant i wrthdarawiad.

Y trydydd oedd Wil Lonydd. Yr oedd cylch ei daith ef lawer cyfyngach na'r un o'r ddau uchod-rhyw ddau blwy a hanner; ac arferai aros yn hwy yn yr un plas, o wythnos i bythef-