Tudalen:Cwm Eithin.djvu/74

Gwirwyd y dudalen hon

nos—hen dŷ gwag neu feudy allan, rhyw led dau gae neu dri oddi wrth y ffermydd. Y mae'n debyg mai'r rheswm na chymerai ffeddiant o'r ysguboriau yn ymyl y tai oedd na chai lonydd gan yr hogiau drwg, ac ymwelai â'r un ffermydd ddwywaith neu dair yn ystod ei arhosiad. Fel rheol, gofynnai am dipyn o fara yn un ffarm i wneuthur bara llaeth, ac âi i'r ffarm nesaf i ofyn am llaeth. Gofynnai i'r wraig neu'r forwyn ei ferwi iddo. Gallai ffwyta llond crochan pur dda ar unwaith, a gwnai hynny y tro am y diwrnod. A da hynny, oherwydd cerddai mor araf fel mai prin ygwyddech ei fod yn symud. Yr oedd myned i ddwy neu dair o ffermydd gymaint ag a allai ei wneuthur. Yr oedd yn hollol ddiniwed, er bod rhyw graffter ynddo hefyd. Gwyddai ymhle i aros pan fyddai perygl i rew ac eira ei ddal, fel na fyddai raid iddo gerdded ymhell. Arferai ddywedyd am un o'i blwyfi mai plwy da iawn ydoedd—y gallasai dau foneddwr fel efo fyw yno'n iawn. Gwisgai smocffroc wlanen wen—hynny yw, un wedi bod yn wen. Honno'n llaes at ei draed, wedi ei gwisgo trwy wthio ei freichiau i'r llewys a'i ben trwy'r twll yn ei thop, fel y gwna'r merched ieuainc gyda jumpers y dyddiau hyn. Byddai yn cael un newydd bob rhyw hyn a hyn o flynyddoedd. Ni wn ai'r plwy oedd yn talu amdani, ai rhyw garedigion. Ond pan gâi un ni thynnai yr hen un, neu'n hytrach yr hen rai—rhoddai yr un newydd ar gefn y lleill; a phan gofiaf i ef edrychai'n debycach i gocyn crwn o wenith nag i ddyn. Cofiaf ef yn dda un gaeaf. Daeth ar ei daith i hen dy gwag ar gwr tyddyn fy hen ewythr William Ellis, nai John Ellis y cerddor, pan oeddwn i yn canlyn y wedd yno. Daeth yn storm o eira a rhew, lluwchfeydd mawrion, a pharhaodd yn hir. Bu Wil yn yr hen dŷ am o chwech i wyth wythnos yn methu symud ei luest, ac yn gorfod byw ar ddwy neu dair o ffermydd am hir o amser pan na allai fyned i le'n y byd arall. Ac aeth i deimlo'n swil, ac i ofni ei fod yn myned dros ben rheswm; ond gofalwyd na chafodd lwgu. Clywais modryb, Jenny Ellis, yn dywedyd wrtho, "Paid ti â diodde eisie bwyd, Wil. Os na fedri di fynd i rywle arall, tyd di yma fory eto." (Bendith ar ei phen. Meddai galon hawddgar a da). Bûm yn ei wylio'n dyfod trwy'r eira mawr. Tua chanol y dydd y deuai, ac wedi i'r eira dduo gan y rhew a'r tywydd yr oedd bron yn amhosibl dywedyd pa un ai Wil ai caseg eira yr edrychech arno; ac i fod yn sicr, byddai raid sefyll yn eich unman ac edrych ar ryw farc o'r tu draw iddo i weled ei fod yn symud, gan mor araf y cerddai. Galwodd mewn ffarm yn