Tudalen:Cwm Eithin.djvu/75

Gwirwyd y dudalen hon

Edeirnion un tro. Nid oedd neb i mewn ond gŵr y tŷ, a hwnnw yn dipyn o wag. Meddyliodd y mynnai allan faint o fara a llaeth a allai Wil ei fwyta ar unwaith. Chwiliodd am y crochan mwyaf oedd yno; llanwodd ef â bara a llaeth hyd yr ymylon— digon i tua dwsin o ddynion, a berwodd ef yn dda, ac aeth ag ef i'r briws, a gwahoddodd Wil i'w helpu'i hun. Bu yntau'n bwyta ac yn bwyta am amser maith, nes oedd wedi chwyddo i faint mwdwl eithin; ond methodd yn lân ei orffen. Yr oedd yno dipyn yn weddill, a galwodd ar ŵr y tŷ, a dywedodd:—"Mae'r bara llaeth yma'n dda ofnadwy, ond fedra i ddim i fwyta fo i gyd. Byta di'r gweddill. Mae'n biti iddo fo fyn'd yn ofer."

Diau i Wil fyw yn hir fel Elias gynt ar y pryd hwnnw, ond gallaf sicrhau nad aeth yn bell.

Y pedwerydd yw Twm Poole. Cyfeiria "Llyfrbryf" ato ef yng Nghofiant Daniel Owen, 1903, wrth sôn am hoffusion y nofelydd: "Yn ei siop ef y gwelais i olaf y crwydryn rhyfedd Tom Poole." Wele ddarlun ohono wedi ei dynnu oddi ar ei gof gan Mr. William Hughes, Cefn Brith, a dywaid "Llyfrbryf": "Ystyrir y darlun yn bortread pur gywir o'r crwydryn syml diniwed." Gresyn na fuasai "Llyfrbryf" wedi rhoddi inni ragor o hanes Twm Poole. Ychydig o droeon y gwelais i ef. Diau fod rhesymau am hynny. Yn un peth nid oedd yn wreiddiol o Gwm Eithin. Credaf mai o ochr Dyffryn Clwyd i Hiraethog yr hanoedd. Rheswm arall iddo fod yn ddieithrach i mi na'r tri chyntaf yw, i mi dreulio darn o fore f'oes mewn rhan o Gwm Eithin lle nad oedd llawer o briciau, ac ni allai Twm fyw mewn lle felly. Dull Twm Poole o ennill ei damaid oedd hel coflaid o briciau a dyfod â hwy o dan ei gesail at ddrysau'r tai, a gofyn am damaid yn eu lle. Ni feddyliai am fyned at ddrws heb ei briciau i'r wraig at ddechrau tân. Cofiaf ef yn dda. Ffon yn un llaw a'r priciau o dan ei fraich; golwg ddiniwed arno, a gwraig y tŷ yn gofyn iddo, "Ddaru ti ddim tynnu'r gwrychoedd, decini, naddo Twm?" "Naddo," ebe yntau. Cymerodd hithau y priciau a rhoddodd glwt o fara a chaws iddo. Anhawster mawr Twm gyda'i ddull o fyw oedd cadw'r ddesgil yn wastad rhag iddo, wrth geisio plesio'r gwragedd, dynnu'r gwŷr yn ei ben. Oherwydd un o'r pechodau mwyaf yn erbyn ffarmwr yw gadael llidiart yn agored, a thynnu'r gwrychoedd. Clywais am un hen frawd yn dywedyd ei brofiad yn y seiat, ei fod yn credu na fyddai'n ddrwg iawn arno'r Ochr Draw, gan ei fod wedi gofalu cau pob llidiart ar ei ôl, ac na fu'n euog o dynnu gwrych