Tudalen:Cwm Eithin.djvu/77

Gwirwyd y dudalen hon

neb. Ond yr oedd Twm Poole wedi dysgu'r grefft o hel priciau heb dynnu'r gwrychoedd, naill ai o egwyddor neu o ofn y canlyniadau. Ni fuasai raid iddo ofni llawer ar y gwragedd am hynny, oherwydd nid dieuog llawer ohonynt, os caent gyfle heb i'r gwŷr weled. Ond yr oedd clywed arthiad ambell ffarmwr pan welai rywun yn tynnu'r gwrych wedi suddo'n ddwfn i gydwybod Twm. Ni cheid ef yn euog o'r trosedd uchod. Drwg gennyf erbyn hyn na sylwais pa fodd y byddai Twm yn ymdaro ar y Sul. Oherwydd am hel priciau ar y Sul y cymerwyd yr hen wr i'r lleuad, ac yr oedd ef i'w weled yno yn amlwg iawn o Gwm Eithin, a mynych y bygythid plant a phobl ddiniwed â'r un dynged os gwnaent rywbeth allan o le. Clywais gan gyfaill mai ffordd Twm i gael cynhaliaeth ar y Sul oedd myned i'r capel, aros am y blaenoriaid a'r pregethwr ar y diwedd, canmol y bregeth, ac adrodd emyn, ac oni thyciai hynny, canmol Iesu Grist fel rhoddwr haelionus.

Clywais fy nain yn sôn am foneddwr arall a arferai deithio y rhannau hyn o'r wlad cyn cof i mi, yn neilltuol gilfachau'r Arennig. "Hen ddyn y Cŵn," y galwai hi ef. Ei ffordd ef oedd cadw pump neu chwech o gŵn ffyrnig, a mynd o gylch y ffermydd a hawlio bwyd iddo ef a'i gŵn; ac onid e bygythiai y cŵn ar y trigolion, ac yr oedd ei arswyd gymaint fel yr oedd yn gallu cael ei gynhaliaeth yn y ffordd ddieithriol hon. Dywedai fy nain i'r hen ŵr a'i dylwyth ddyfod i'w chartref un tro pan nad oedd ond ei mam a hithau a chwaer neu ddwy wrth y tŷ, ei thad a'r dynion wedi myned i'r mynydd; gwyddai'r hen ddyn hynny'n dda, ac aeth yn frwnt, ac i hawlio gwledd o datws a chig, ac uwd i'r cŵn. Ond daeth y dynion i lawr o'r mynydd yn gynt nag yr oedd yn meddwl, a gwelsant y lluniaeth yn cael ei baratoi, a'r merched mewn braw, a throesant ar y boneddwr a'i gŵn ac aeth yn gryn gynnwrf; ond y dynion a orfu; ac i ffwrdd â'r cŵn a'u meistr, ac ni welwyd hwy am hir o amser drachefn yn y pentre. Diau y dywaid rhywun mai coel gwrach ar ôl bwyta uwd yw peth fel yna, na fuasai'r trigolion byth yn dioddef peth felly. Sicr na fuasai yn cael ei oddef yn ein hoes ni; ond mae'r hanesyn uchod yn llythrennol wir, nid yw ond un o lawer o enghreifftiau o bethau tebyg. Yr oedd pobl yn medru witsio, ac yn y blaen, yn bla ar y wlad yn nechrau'r ganrif o'r blaen. Ac oni oddefwyd Gwylliaid Cochion Mawddwy am hir amser?