Tudalen:Cwm Eithin.djvu/79

Gwirwyd y dudalen hon

yn Llunden erstalwm? Mae ei arian o yn y Chancery. Mae'n nhw yn deud fod yno gryn hanner can miliwn ohonyn nhw."

"Ydych chwi yn meddwl fod rhywbeth yn y peth?"

"O, mae yn siŵr i chwi fod, neu fase Mr. Bowen, y twrne, ddim yn boddro ei ben yn i cylch nhw."

"Wel, yr ydw i yn siŵr mod i yn perthyn yn nes i hen deulu Pant y Ffynnon na fo."

"Wel, well i chwi fynd i'w weld o ynte."

Fel yna fe ddywedir y rhoir ardal ar dân. Ni wn i ddim am hynny, ond gwn yn iawn hanes helynt Arian Mawr Cwm Eithin. Yr oedd hwnnw fel hyn. Yn un o'r trefi marchnad ar gyrion y Cwm yr oedd twrnai yn byw a gyfrifid yn un hir iawn ei ben, a chredaf ei fod felly. Yng nghanol Cwm Eithin yr oedd crefftwr yn byw, dyn golygus, parablus, crefftwr pur dda. Cawsai faint a fynnai o waith pe bai yn ei wneud, ond bywoliaeth lwydaidd oedd ar ei wraig a'i blant. A dywedyd y gwir yn blaen, nid oedd yn hoff o weithio. Nid oedd plygu yn ei gymalau. Un o'r bobl hynny sydd yn hoffi cerdded o gwmpas â choler wen am ei wddf, menyg a ffon yn ei ddwylo; rhyw un rhan o dair o ŵr bonheddig. Ped elech gydag ef am dro ar hyd y caeau dringai dros ben gwal chwe throedfedd cyn y plygai i fyned dan y pren a groesai'r adwy. Pe buasai yn fyw y dyddiau diweddaf hyn buasai yn hel siwrans, hel plant i'r ysgol, wedi cael swydd bach gyda'r King Edward Memorial neu dan yr Insurance Commission. Un felly oedd y gŵr hwn. Er ei fod yn byw ymhell oddi wrth Bowen y twrnai, nid hir y bu hwn yn cael gafael arno. Dechreuodd yntau ofyn megis dros ei ysgwydd yn y ffair a'r farchnad:

"Glywsoch chwi fod Mr. Bowen, y twrne, yn debyg o gael arian mawr yr hen Beter Ffowc, Tŷ Gwyn, ers talwm ? Mae Mr. Morgan, Cacau Cochion, a Mr. Jenkins, y Parciau, yn mynd i gael swm mawr ohonyn nhw."

"Beth! yr ydw i yn perthyn yn nês i deulu'r hen Beter Ffowc na'r un ohonyn nhw, peth sy siŵr ydi o."

"Wel, gore bo'r cynta i chi fynd i weld y twrne ynteu, rhag ofn i chwi fod yn ddiweddar. Mi ro eich enw chwi i lawr fel un o'r rhai sydd i gael rhan."

Aeth yn dân gwyllt trwy y lle. Bu agos i rai golli eu synhwyrau. Caed cyfarfod gyda Mr. Bowen. Nid oedd neb a roddai ei enw fel ymgeisydd am yr arian cyn dyddiad nodedig