Tudalen:Cwm Eithin.djvu/8

Gwirwyd y dudalen hon

AT Y DARLLENYDD

CYNNWYS y llyfr hwn ddetholiad o gyfres o Straeon Atgof a ysgrifennwyd i'r Brython yn y blynyddoedd 1923-26. Bu'n rhaid eu cwtogi i'r hanner, eu crynhoi ac ad-drefnu peth arnynt i'w cael i mewn i lyfr a ellid ei werthu am bris isel, Yr oedd yn yr ysgrifau fel yr ymddangosasant yn Y Brython lawer o ddyfyniadau o hen gylchgronau a hen lyfrau. Bu'n rhaid eu gadael allan bron i gyd, ond rhoddir cyfeiriadau at rai ohonynt fel y gall y darllenydd droi iddynt os dewisa.

Nid oedd gennyf yr un bwriad o'u cyhoeddi'n llyfr wrth eu hysgrifennu; y rheswm i mi ofyn i'r golygydd eu cyhoeddi oedd mai hel hen hanesion fu fy hobi ar hyd fy oes, ac yr oedd gennyf doreth o nodiadau wrth law pan ddechreuais eu cyhoeddi. Rhoddais y gwaith i fyny oherwydd rhyw ddifaterwch, er bod gennyf ddigon o ddefnyddiau wrth law i ysgrifennu cyfres arall debyg. Hoffwn eto gyhoeddi cofiant i'r Tylwyth Teg oedd yn byw o gylch fy hen gartref, a rhai o'r ysbrydion a adwaenwn yn dda pan oeddwn yn hogyn, er na fûm erioed mor hoff ohonynt hwy ag o'r Tylwyth Teg; arferai rhai ohonynt wneud hen droeon digon sâl â mi ac eraill. Yr oedd i'r Tylwyth Teg ac i'r ysbrydion ran fawr ym mywyd Cymru yn yr hen amser, yn enwedig yn yr ystraeon a adroddid wed'-bo-nos, ond sydd erbyn hyn wedi diflannu a bron myned yn angof.

Diau y gofyn aml un, pa ddiben cyhoeddi ysgrifau fel hyn? Yn ôl fy syniad i y mae dau amcan, sef yn gyntaf magu gewynnau yn y to sydd yn codi, ac yn ail, gwneud cyfiawndêr â'r tadau. Credaf mai ychydig iawn o'r to sydd yn codi a ŵyr y nesaf peth i ddim am un o'r cyfnodau caletaf a fu erioed yn hanes Cymru, sef tua hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf. Dywaid Syr O. M. Edwards mai dyna'r cyfnod y bu fwyaf o ddioddef eisiau bwyd yn hanes ein cenedl. Yr ydym ninnau yn byw mewn cyfnod caled, ac efallai y bydd yn galetach yn y dyfodol, er yn wahanol iawn i amser y tadau. Ond pwy a ŵyr na all darllen am y modd y brwydrodd llawer tad a mam am fwyd i'w plant bach ganrif yn ôl fod yn symbyliad i ryw dad a mam eto yn y dyfodol ?

Y mae cymeriad y tadau a'n dyled iddynt yn gofyn am i rywun eu hamddiffyn.