Tudalen:Cwm Eithin.djvu/81

Gwirwyd y dudalen hon

argraff ar fy meddwl ei bod yn cofio rhywun yn ceisio am yr arian mawr pan oedd hi yn eneth fach. Heblaw hynny, hen frenhines o wraig oedd hi. Nid hawdd ei symud wedi iddi wneuthur ei meddwl i fyny, ac nid oedd deilen ar ei thafod. Dywedai ei meddwl heb lol."

Gwelodd Mr. Syth nad oedd yr ail bumswllt, ac yn enwedig y trydydd pumswllt, yn dylifo i mewn mor rhwydd a'r cyntaf. Yr oedd misoedd yn myned heibio, yr arian heb ddyfod, a'r bobl yn dechrau nogio a cholli eu sêl a'u brwdfrydedd cyntaf. Yr oedd bron yn amhosibl cael y pedwerydd pumswllt.

Dywedid i Mr. Syth fynd o gwmpas a dywedyd, "Mae yr arian mawr yn bownd o ddyfod. Maent wedi llwytho ar dryciau y relwe yn Llundain. Ond mae y Great Western Railway Company yn gwrthod dyfod â hwy heb i ni dalu'r cludiad cyn cychwyn, ac mae eisiau'r pumswllt yna i dalu i'r Railway Company am ddwad â hwy."

Ymddengys na chafodd ddigon o bumsylltau i dalu'r cludiad, dim ond digon i dalu am ddadlwytho'r tryciau yn ôl. O'r hyn lleiaf, nid yw yr arian mawr byth wedi cyrraedd Cwm Eithin. Gwnaed cynnig arall am arian mawr Peter Ffowc ar ôl i mi adael Cwm Eithin. Nifer o flynyddoedd yn ôl, yr oeddwn yno am ychydig o awel iach y bryniau, yn aros gyda chyfaill; ac yr oedd y Cwm yn ferw drwyddo. Nid oedd dim i'w gael ond sôn am yr arian mawr. Yr oeddynt i ddyfod ar unwaith. Clywais fod rhai a geisiai amdanynt y tro hwnnw yn rhai gwreiddiol dros ben, ac wedi gwneud llun coeden fawr gadarn ganghennog. Peter Ffowc oedd y gwreiddyn a'r boncyff, a'r disgynyddion oedd y canghennau; ac am dalu'r swm o arian yr oedd pob un i gael ei enw ar un o'r canghennau i ddangos ei gysylltiad â'r boncyff. Ond yn lle ymladd am fod yn uchaf, fel arfer pobl uchelgeisiol, ymladdent am fod yn isaf a nesaf i'r boncyff; ac yr oedd enwau trigolion y cwm fel adar yn llechu yng nghanghennau'r goeden. Nid oes neb eto wedi gallu ei gysylltu ei hun â'r boncyff, hyd y gwn i, ac ni chlywais fod yr arian mawr wedi cyrraedd. Cefais fy nghymell gan fy nghyfaill yn gryf i roddi fy enw ar y goeden, ond cofiwn i'r Great Western Railway Company wrthod dyfod â'r arian i Gwm Eithin y tro o'r blaen ac nid oedd gennyf ffydd yn y goeden. Ond er nad yw fy enw yng nghangau'r goeden, gobeithiaf y cedwir hi, fel y caiff ei ddisgynyddion eto gyfle i brofi eu perthynas â Pheter Ffowc a chael yr arian mawr.