Tudalen:Cwm Eithin.djvu/82

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VI

YR HEN FYTHYNNOD

CYN y gellir rhoddi disgrifiad gweddol gywir o fywyd gwledig Cwm Eithin, mae'n rhaid wrth bennod ar ei fythynnod a'i gabanau. Llawer o gwyno y sydd yn ein dyddiau ni ar y tai, a'u beio am afiechydon, etc. Diau nid heb achos. Ond mae yn rhyfedd iawn fel y dug ein cyndadau deuluoedd mawr i fyny yn iach, a glân eu moes, mewn cabanau unnos o un neu ddwy ystafell, a heb ond yr ychydig o olau a ddeuai i mewn drwy'r drws, y simnai, tyllau yn y to a'r muriau.

Un o'r ffurfiau cyntefig ar adeiladu tai oedd torri dau bren fforchog a'u troi â'u pennau i lawr, plethu gwiail yn yr ochrau, a gadael mynedfa yn un o'r talcenni. Ar ei ol daeth y cwpwl bongam. Dibynnai uchter gwal ochrau'r tŷ ar hyd y camedd ym môn y cwpwl, tair neu bedair troedfedd o uchter. Nid oedd y rhai uchaf fawr uwchlaw wyth droedfedd. Toid y tai â gwellt, grug, neu lafrwyn, a rhoddid tywyrch trum ar y grib. Clai a gwellt fyddai'r morter yn aml. Os toid ambell un â llechau tewion ni feddylid am roi plaster o dan y to fel yn awr; felly, er cadw'r gwynt, y glaw a'r eira allan, yr oedd yn rhaid ei fwsoglu, a byddai'n angenrheidiol gwneud hynny bob rhyw dair blynedd.

TAI ANNEDD DDECHRAU'R DDEUNAWFED GANRIF

Un ystafell oedd yn y rhan fwyaf o dai y gweithwyr, ond rhoddid dreser a chwpwrdd pres ar draws yn aml i wneud siamber. Weithiau rhoddid croglofft wrth ben y siamber, ac ysgol symudol i fynd iddi o'r gegin. Ond ni ellid rhoi gwely ond ar ei chanol, gan fod y to mor isel, a byddai'n rhaid rholio allan o'r gwely neu ddioddef taro eich pen. Byddai'r simnai yn agored, y tân o fawn, carreg ar yr aelwyd, a'r llawr yn llawr pridd. Yr oedd tai y ffermydd ychydig yn well. Gwelir aml un ohonynt hyd heddiw, wedi ei droi yn hofel neu'n ysgubor. Byddai y drws yn ddau ddarn fel rheol, fel y gellid gadael y rhan uchaf yn agored, a chau y rhagddor i rwystro'r ieir a'r moch i'r tŷ. Mae hen dai y gweithwyr bron i gyd wedi mynd â'u pennau iddynt, ac y mae cannoedd ohonynt nad oes dim o'u hôl.