Tudalen:Cwm Eithin.djvu/83

Gwirwyd y dudalen hon

Gwaith diddorol a buddiol fyddai casglu hanes murddunod y gwahanol blwyfi.

Yn Eisteddfod Llansannan, nifer o flynyddoedd yn ôl, rhoddwyd gwobr gan Mr. John Morris, Y.H., am hanes hen furddunod y plwyf, ac ef a ddug y draul o gyhoeddi y traethawd buddugol.[1] Nodir ynddo ddau cant a phymtheg ar hugain o'r hen furddunod.

YR AMAETHDAI

Bychain a gwael iawn oedd llawer o amaethdai Cwm Eithin. Pan ddatblygodd amaethyddiaeth caed gan y meistri tir adeiladu ambell ystabal neu ysgubor, ac mewn ambell le gwelid y rhai hynny yn gymharol newydd, tra'r edrychai'r tai yn hynafol a bychain. Pan aeth yr amaethwr i drin rhagor ar ei dir ac i gadw rhagor o weision a morynion, nid oedd lle i'r llanciau gysgu yn y tai. Gan hynny, defnyddid y llofft stabal a llofft yr ŷd wrth ben yr hofel; ond nid oedd bosibl rhoddi mynedfa iddynt o'r tai. Grisiau cerrig o'r tu allan oedd iddynt, a gelwid hwy yn llofft allan, a dyna'r llofft orau yn y lle yn aml. Diau mai dyna fu achos yr arferiad i'r llanciau "gysgu allan," fel y gelwid ef, ac sydd wedi peri i rai na wyddant fawr am anhawster y cyfnod gredu mai creulondeb yr amaethwr tuag at ei weision oedd yr achos.

Un rheswm fod tir-ddaliadaeth mor ansicr, a'r adeiladau mor wael, yng Nghwm Eithin drigain a deg o flynyddoedd yn ôl, oedd fod yr ysgwier a berchenogai y rhan helaethaf ohono a'r mân gymoedd a redai allan ohono, wedi colli arno ei hun a'i roddi mewn sefydliad cyfaddas yn agos i Lundain er cyn cof i mi, a'r plas yn wag. Ni feddai blant; yr aer ar ei ôl ef oedd mab i'w chwaer; ei wraig yn Saesnes ac yn byw yn Llundain, yn byw yn wastraffus, neu'n celcio arian iddi ei hun; y cwbl a wnâi oedd gofalu fod ei stiwart yn hel y rhent. Ni wnâi ddim i'r adeiladau. Aeth yr ystâd i ddyled, a bu'n rhaid gwerthu rhannau helaeth ohoni ddwywaith yn fy nghof i.

TRETH Y GOLAU

Tywyll ac anghysurus iawn oedd y tai fel rheol. Byddai llawer o'r bythynnod heb yr un ffenestr. Yr oedd treth y golau

  1. Hen Furddunod Llansannan, gan Hedd Molvynog (Robert Wynne Jones), Conwy, 1910.