Tudalen:Cwm Eithin.djvu/84

Gwirwyd y dudalen hon

yn fwy nag y gallai'r tlodion ei thalu, a'r unig oleuni a geid mewn llawer tŷ oedd yr hyn a ddeuai i mewn trwy'r drws a'r hyn a allai basio'r mwg i lawr y simnai. Byddai honno'n llydan, a gallech weled yr awyr las pan aech at y tân a sefyll o dan y fantell fawr. Gwir y byddai twll yn y to weithiau, ond rhaid oedd bod yn fanwl gyda hwnnw, neu trethid ef fel skylight; cerrid y ddeddf allan yn drwyadl iawn.

Treth felltigedig oedd treth y golau. Beth bynnag oedd ei hamcan, ei heffaith oedd cadw'r tlodion i fyw mewn cytiau tywyll, myglyd, ac afiach.

Yr oedd treth y golau wedi ei diddymu cyn i mi ddechrau defnyddio golau. Ond yr oedd ei hôl yn hawdd iawn ei weled ar y bythynnod. Y mae yn fy meddiant Assessor's Warrant a ddaeth i'm taid yn 1815 pan oedd ef yn pennu'r dreth ar un o blwyfi Cwm Eithin.

No. 7 Assessed Taxes y gelwir y pamffled o chwech ar hugain tudalen. Rhoddaf ran o'i gynnwys i mewn fel y gweler y gwahanol bethau oedd yn dyfod i mewn am dreth y Llywodraeth yr adeg honno.

Yna rhoddaf ychydig o'r manylion am dreth y golau gan mai hi sydd o dan sylw, ac mai hi oedd yn gwasgu ar y tlodion, ac yn foddion i hau hadau afiechyd yn nheulu'r bythynnwr.

Table of Contents. General observations—Duties on Windows—Inhabited Houses—Domestic Male Servants—Under Gardeners, &c., and Persons in Husbandry occasionally employed as Domestic Servants—Stewards, Bailiffs, &c.—Travellers or Riders Clerks, Book Keepers, and Office Keepers—Shopmen—Warehousemen or Porters—Stable Keepers—Servants looking after Race Horses—Waiters—Occasional Servants—Servants let to hire—Stage Coachmen and Guards —Carriages with four Wheels—Carriages let to hire—Carriages with less than four Wheels—Taxed Carts—Coachmakers and Sellers of Carriages—Carriages made for sale, or sold by Auction or Commission—Horses for riding or drawing Carriages—Horses let to Hire—Race Horses and Mules—Dogs—Horse Dealers—Hair Powder—Armorial Bearings. Allowance for Children.

Yr oedd y cyfarwyddiadau sut i'r trethwr gario ei waith allan yn fanwl, a'r gosb yn drom iawn arno pe buasai yn teimlo ar ei galon adael i weddw dlawd weled goleuni'r haul o'i bwthyn heb