Er eu tlodi a'u bychander, cu iawn oedd bythynnod Cymru. Dyma bennill o eiddo Ieuan Gwynedd[1] a fagwyd yn un ohonynt:
O dlysion Fythod Cymru, sy'n mygu yn y glyn,
Ac ar y gwyrddion lethrau, a'u muriau oll yn wyn!
Mae'r gwenyn wrth eu talcen neu gysgod clawdd yr ardd,
A'r rhosyn coch a'r lili o'u deutu yno dardd.
CABAN UNNOS
Yr oedd yn hen arferiad yng Nghymru godi cabanau unnos, neu y tai tywyrch fel y gelwid hwy. Codid hwy ar y cytir. Pan feddyliai hen lanc am briodi, chwiliai am nifer dda o gyfeillion, ac aent ati gyda'r gwyll i godi tŷ tywyrch. Byddai'n rhaid i'r tŷ fod wedi ei orffen cyn i'r haul godi, a mwg wedi dyfod allan trwy'r simnai; ac os ceid amser a digon o gymorth, gwneid clawdd tywyrch o amgylch darn o dir i wneud gardd, a byddai'r tŷ a'r ardd yn eiddo bythol i'r adeiladydd. Ond gofidus yw dywedyd i dirfeddianwyr Cymru ddwyn cannoedd ohonynt trwy eu traha a'u hystrywiau.
Yr oedd nifer o dai tywyrch o gylch fy hen gartre. Bûm mewn pedwar ohonynt pan oeddwn yn hogyn. Yr oedd teuluoedd yn byw ynddynt, a bûm yn chware lawer tro mewn dau ohonynt. Magwyd chwech o blant yn un ohonynt. Yr oedd yno ryw fath o derfyn ar ei ganol i wneud dwy ystafell, ac yr oedd y tad wedi rhoi croglofft isel wrth ben y siamber i rai o'r plant gysgu ynddi. Tyfodd y plant i gyd i fyny yn grefyddol a moesol, a bu y rhan fwyaf ohonynt fyw i weled hen ddyddiau. Nid oes namyn dwy flynedd er pan fu'r mab hynaf a'r ail ferch farw—y ddau wedi croesi eu pedwar ugain mlwydd oed. Ni chyfarfum erioed â neb â golwg mwy hapus arni nag Ellen Richards, eu mam; bob amser yn chwerthin yng nghanol y plant a mwg y tân mawn. Tebyg mai'r caban unnos oedd ym meddwi y bardd pan ganodd:
Mi brynais gan y brenin
Frig y borfa a chreigiau Berwyn,
I fildio Castell ar le gwastad
Uwchlaw Corwen gyda'm cariad.[2]