Tudalen:Cwm Eithin.djvu/88

Gwirwyd y dudalen hon

Diau fod tai da yn rhai o'r ffermydd mwyaf, ond gellid yn briodol iawn gymhwyso'r pennill toddedig a ganlyn at lawer ohonynt:

Sion a Sian yn byw yn Tŷ Mawr,
Côr a'r ysgubor bron d'od i lawr;
Tŷ heb ddim to, grât heb ddim tân-
Dyn a helpo Sion a Sian.

Enwau y pedwar caban unnos a gofiaf fi yng Nghwm Eithin oedd Tŷ Dafydd Richard, Tŷ John y Cwmon, Tŷ Twyrch, a Bryn Bras. Fe welir fod enw'r olaf yn swnio'n fawreddog, ac y mae tipyn o ramant yn perthyn i'w hanes. Yr oedd y gŵr a'i hadeiladodd, ar ôl bod yn ffarmio mewn gwedd weddol eang, wedi dyfod i lawr yn y byd, wedi methu ac wedi bod yn nwylo gwŷr y cwils, fel y dywaid. Aeth i Birkenhead i dreio bydio, ond daeth yn ôl i Gwm Eithin, ac adeiladodd Fryn Bras. Cofiaf ef yno gyda Mari ei wraig, ac enillai ei damaid a'i lymaid wrth fyned o gwmpas y wlad i brynu 'sanau, a myned â hwy i'r marchnadoedd i'w gwerthu. Yr oedd yn fardd neu rigymwr, a rhyw natur llenydda ynddo. Yn ffodus cefais fenthyg pamffledyn a gyhoeddodd. Enw y pamffledyn yw: Tecel, sef ychydig o ganiadau gan hen Wr Godrau'r Mynydd, sef Gabriel Parry, Llanrwst. Argraffwyd gan J. Jones, 1854. Y mae iddo bedwar tudalen ar hugain, a'i bris yn chwecheiniog, y rhagymadrodd wedi ei arwyddo "Bryn Bras Tachwedd 14, 1854. Heblaw y caneuon, ceir hanes bywyd rhamantus yr awdur. Ond nid oes ofod i ddyfynnu ond y darn lle y sonnir am adeiladu'r caban unnos.

"Wedi dyfod adre o Birkenhead, ac eisieu anedd-dy i fyw, meddyliais godi tŷ ar y mynydd, ac felly y gwneis trwy gynorthwy cymdogion caredig, ac nid oedd yn fy mhoced ond 12s., ni feddwn na rhaw, na chaib, na throsol, ond y cyfan yn arfau benthyg. Dywedais fel y canlyn:—

Mi godaf dŷ newydd, mi godaf' dŷ newydd,
Ar fynydd, ar fynydd i fyw,
I fod yn ddiddos uwch fy mhen
Rhag cawodau gwlith y Nen
Lle trigaf holl ddyddiau fy oes.