Tudalen:Cwm Eithin.djvu/89

Gwirwyd y dudalen hon

O dywyrch a cherig, o dywyrch a cherig,
A'u gweithio hwy'n llithrig i'w lle',
Brwyn a grug fydd ar ei ben,
Rhag cawodau gwlith y nen—
Lle trigaf holl ddyddiau fy oes.

Ac allor a godaf, ac Allor a godaf,
Addolaf, addolaf E' yn Dduw ;
Pen Creawdwr Nef i gyd,
Daliwr moroedd a'r holl fyd
Mi a'th folaf, tra byddaf fi byw.