Diau y gofynnir pa gymhwyster a feddaf i ysgrifennu hanes y cyfnod. Dyma'r ateb, sef bod fy nghof yn myned yn ôl ganrif a chwarter yn bur glir. Nid am fy mod yn gant a hanner mlwydd oed a mwy, ond oherwydd y ffaith i mi gael fy magu gyda'm taid a'm nain oedd wedi eu geni yn y ddeunawfed ganrif, a'u hoff bleser hwy oedd atgoffa treialon y cyfnod gyda'i gilydd a chyda'u hen gyfoedion. Yr oedd fy nhaid wedi cael addysg dda, wedi bod yn Ellesmere yn yr ysgol am flynyddoedd, a'i ddwyn i fyny yn dirfesurydd. Yr oedd yn well Sais nag oedd o Gymro. Efô a arferai wneud ewyllysiau trigolion y cwm, gwneud llyfr y dreth, a gofalu am Restr y Plwyf. Felly yr oedd llawer o gyrchu i'm hen gartre, ac yr oeddwn innau yn clywed yn dda iawn y pryd hynny. Arferai fy mam a'm nain adrodd hanes treialon yr amserau beunydd beunos. Gallai fy mam fyned â mi unrhyw adeg ar ei braich yn ôl i 1820, a gallai fy nain fy nghymryd i 1795 yn ddidrafferth, a thrwy'r hyn a glywsai gan ei mam, i 1750. Enynnodd yr ymddiddanion ynof ddiddordeb yn yr hanes, ac y mae wedi parhau hyd heddiw. Y mae gennyf nifer o ewyllysiau'r trigolion, hen lyfrau Festri Cwm Eithin, llawer o bapurau ynglŷn â'r degwm a'r trethi, Receipts y rhenti, llawer o filiau masnachwyr Caer pan oedd fy nhaid yn cadw siop ddechrau'r ganrif ddiwethaf, hen gytundebau, papurau oddi wrth y Llywodraeth am drethi'r golau, etc., a ddaeth i'm meddiant ar ôl fy nhaid.
Pan ymddangosodd yr ysgrifau yn Y Brython, derbyniais nifer dda o lythyrau yn fy nghymell i'w cyhoeddi'n llyfr, ambell un ohonynt gan frodyr yr arferwn roddi gwerth ar eu barn, er y gwn y bydd pob hogyn yn rhoddi gwerth ar farn y rhai a fydd yn ei ganmol. Mentraf ollwng y llyfr ar ei daith fer neu hir.
Dymunaf gydnabod fy niolch i'm nai, Mr. John Edwards, M.A., Llandeilo, am gywiro'r orgraff, ac i'm mab yng nghyfraith, Mr. Wm. Williams, F.L.A., a Mr. J. J. Jones, M.A., y ddau olaf o Aberystwyth, am lawer o awgrymiadau, am y mynegai, ac am ddarllen y proflenni. Yr wyf yn ddyledus i Dr. Cyril Fox, .F.S.A., Cyfarwyddwr yr Amgueddfa Genedlaethol, am ei garedigrwydd yn rhoddi benthyg nifer o ddarluniau hen gelfi sydd yn yr Amgueddfa, a chaniatâd i wneud blocs ohonynt. Gadawyd orgraff y dyfyniadau mor agos ag y gellid i'r gwreiddiol.