Tudalen:Cwm Eithin.djvu/90

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VII

RHANNU'R MYNYDD

MAE yn debyg na chynhyrfodd dim byd gymaint ar drigolion Cwm Eithin er yr adeg hwy i amddiffyn y Cwm rhag y Saeson, â derbyn y rhybudd fod y mynydd i gael ei rannu. Mynyddoedd isel oedd rhai Cwm Eithin. Yr oedd llawer ohonynt wedi eu cau'n ffriddoedd cyn cof i mi, a pharhâi y tyddynwyr i'w cau. Nid drwg i gyd oedd rhannu'r mynydd. Pe bai wedi ei rannu yn deg, gwaith da fuasai, oherwydd mae'n debyg na fu dim yn fwy o asgwrn cynnen na'r mynydd, a hynny oherwydd y crafangu oedd amdano. Yr oedd hyd yn oed yng Nghwm Eithin amryw o ffermwyr digon sâl, dynion nad oeddynt yn gofalu dim am neb ond hwy eu hunain. Pan oedd y mynydd yn agored yr oedd gan yr holl drigolion hawl i fyned yno i hel pabwyr a llys, torri mawn a chlytiau, a hel grug yn danwydd, torri brwyn a llafrwyn a thywyrch trum i ddiddosi eu tai a'u cytiau, i droi ychydig o ddefaid neu ferliws, os byddai ganddynt rai, neu fuwch i bori yn yr haf. Ac adeiladodd aml ŵr tlawd gaban unnos ar y mynydd, a chau darn bach o dir, lle y magwyd aml wron. Ond atolwg, beth a ddaeth o ran y tlawd o'r mynydd? Cawn weled wrth fyned ymlaen fod cymaint o fai ar y tyddynwyr crafanglyd am i'r tlawd golli ei ran ag ar y tirfeddiannwr cyfoethog. Yr achos oedd fod y ffermwyr cyfoethoca yn anfon mwy o ddefaid a merliws nag a ddylasent, ac mewn amser yn meddiannu darnau mawr o'r mynydd, a dywedyd, "Ein buches ni sydd i fod yma," gan wasgu'r ffermwyr tlota o hyd. Rhaid cofio hefyd fod defaid a merliws y bobl hyn lawer mwy annuwiol a gormesol na defaid a merliws y bobĺ dlawd. Yr oedd anian eu meistradoedd yn cael ei throsglwyddo yn amlwg iawn iddynt. Os buoch erioed yn myned â defaid i'r mynydd agored, ni byddai raid i chwi aros yn hir iawn na welech mor ofnadwy o haerllug a thrahaus ydyw defaid ffarmwr haerllug a chrafanglyd tuag at ddefaid gonest ffarmwr tlawd, neu rai gwraig weddw dlawd druan, ac fel y gorfodant hwy i gilio o'u ffordd. Yr oedd cyfrifoldeb y dynion hynny yn fawr, nid yn unig am a wnaethant eu hunain, ond am drosglwyddo eu hanian haerllug a barus i'w hanifeiliaid. Os amheua rhywun yr athroniaeth uchod holed