Tudalen:Cwm Eithin.djvu/91

Gwirwyd y dudalen hon

hen fugeiliaid Cymru, a darllened y disgrifiad o anifeiliaid y ddwy ffarm a alwai yr "Hen Deiliwr"[1]yn Nefoedd ac Uffern.

Llawer ymladdfa ffyrnig a fu rhwng ffermwyr Cymru am ran fach o'r mynydd. Bu teuluoedd yn elyniaethus i'w gilydd am genedlaethau o'r herwydd. Nid drwg i gyd oedd ei rannu, meddaf, pe bai wedi ei rannu i'w berchenogion yn lle rhwng nifer bach o dirfeddianwyr.

Erbyn fy amser i yr oedd y rhan fwyaf o fynyddoedd isel Cwm Eithin wedi eu cau yn ffriddoedd. Ni wn pa bryd y dechreuodd y wanc am y mynydd ac y dechreuwyd ei gau yn ffriddoedd. Yr oedd gwthio a thrin a throi y mynydd yn myned ymlaen gyda rhyw ynni a chrafangu ofnadwy pan gofiaf gyntaf. Gelwid un o'r rheibwyr hyn "Sian yr hollfyd a'r Gwane i gyd." Anodd gwybod pa bryd y dechreuwyd "gwthio" y mynydd. Y cofnodiad cyntaf sydd yn hen lyfrau mesur tir fy nhaid yw am Ffridd Garreg Fawr Syrior, Llandrillo, yn cael ei gwthio tua 1815, a'r pris am y gwaith. Ni ellid ei droi heb ei wthio, er y dywedid mai darnau ar yr ucheldiroedd a arferai yr hen drigolion eu llafurio. Yr oedd croen mynyddoedd Cwm Eithin mor wydn a chroen tarw, ni ellid cael aradr a ddaliai i'w droi, na cheffylau ddigon cryfion i'w thynnu; gellid torri tywarchen drum a'i chario ar eich pen ar hyd yr ysgol i ben y tŷ na fyddai yr un rhwyg ynddi. Pan ddechreuwyd troi yr hen fynydd ceid ceirch yn tyfu dros eich pen ynddo. Gwelodd y tirfeddianwyr ei werth a phasiwyd tua deugain o Enclosures Acts gan Dŷ'r Cyffredin tua'r cyfnod yma.

Ni wn a oedd y ffermwyr yn meddwl meddiannu'r mynydd eu hunain ai peidio. Os oeddynt, siomwyd hwy yn fawr. Ni chawsant led troed ohono. Yr oedd y tirfeddianwyr erbyn hyn yn brysur iawn yn ceisio cael gan berchenogion y cabanod unnos, a'r rhai oedd wedi codi lleoedd bychain ar y mynydd, gydnabod eu hawliau hwy trwy fygythiad a gwên deg. Ni ofynnent fwy na phumswllt o rent gan dyddynnwr bach oedd wedi codi tyddyn ar y mynydd. Nid eisiau rhent oedd arnynt, dim ond cydnabod eu hawl. Am mai eu tir hwy oedd yn taro arno felly hwy oedd biau y lle, a bu llawer o dyddynwyr a deiliaid y cabanod unnos yn ddigon diniwed i dalu. A diau fod disgynyddion aml un a ddechreuodd dalu pum swllt erbyn hyn yn talu agos i hanner canpunt am yr un lle.

  1. Helyntion Bywyd Hen Deiliwr, gan William Rees (Gwilym Hiraethog), Liverpool, 1877.