Tudalen:Cwm Eithin.djvu/93

Gwirwyd y dudalen hon

o gytiau ar y mynydd. Caniateid iddynt eu tynnu i lawr a gwneuthur defnydd o'r coed a'r cerrig a'r tywyrch oedd ynddynt, a chaniateid y cyfnod maith o ddau fis i wneuthur hynny. Pwy a allai dynnu ei dŷ i lawr mewn dau fis a'i ail adeiladu mewn lle arall, pe buasai yn cael clwt o dir i wneuthur hynny? Ond gofalai y tirfeddianwyr nad oedd clwt i'w gael. Felly syrthiodd y cyfan i ddwylo'r tirfeddianwyr, neu gwerthwyd hwy. Yn fuan ar ôl y papur glas gwelwyd y mân swyddogion yn dechrau hel o gwmpas, rhai a chain fesur, eraill a phegiau a pholion, eraill a rhawiau bychain i dorri hiciau yng nghroen yr hen fynydd. Rhoddid rhyddid i'r tirfeddianwyr a'r ffermwyr i ddadlau eu hawliau gerbron yr awdurdodau. Crynai y tlodion a'r tyddynwyr bychain. Gwibiai y rhai haerllug a chefnog ôl a blaen. Buan y deallwyd y gellid cael ffafrau, megis cael y darn gorau at ein lle ni, a gadael y darn sala i'r gwan diamddiffyn. Yr oedd swch fy nhaid yn ddeng acer wedi ei throi a'i thrin; ni adawyd iddo ond y tair acer sala, darn wedi ei dorri yn glytiau a thywyrch i gau clawdd y mynydd.

Dywedid na fu y fath laddfa erioed ymysg ieir, hwyaid a gwyddau Cwm Eithin â'r Nadolig hwnnw a'r un dilynol— y rhanwyr yn byw yn fras a'r ffermwyr yn cynffonna. Bu y rhanwyr yn hir iawn wrth y gwaith. Yr oedd ganddynt hawl i werthu darnau o'r mynydd i dalu'r costau, a gwerthasant lawer ohono. Y darnau gorau a werthent yn aml. Prynodd aml ffarmwr ddarn, ambell un ddigon i wneuthur ffarm pur dda, ond erbyn sincio a chau ac adeiladu trodd allan yn ddigon drud. Yr oedd y ffermwyr mawr yn gwneuthur eu gorau i gael mwy na'u siâr a gadael y rhai bychain ar lai na'u siar. Ni faliai y tirfeddianwyr fawr am hawliau'r ffermwyr bychain cael cymaint ag oedd bosibl o gyfanswm oedd eu cwestiwn hwy. Ar ôl y rhannu aeth y ffermwyr i drin y mynydd; cawsant gnydau da. Codwyd y rhenti, ond ymhen ychydig flynyddoedd cymerodd yr hen fynydd yn ei ben i gynhyrchu llai, lai; yr oedd ei nerth cynhyrchiol yn pallu wrth gael ei fynych droi, a llosgodd aml un o'r rhai barus ei fysedd.

CYFRAN Y TLAWD O'R MYNYDD

Beth a ddaeth o ran y tlawd? Ni chafodd ef gymaint â lled troed, na dim llecyn o'r mynydd oedd yn ymyl y llannau i'r plant bach chware ynddo. Cafodd y tirfeddianwyr filoedd o