Tudalen:Cwm Eithin.djvu/94

Gwirwyd y dudalen hon

aceri, er na feddent fwy o hawl iddo na'r tlotaf yn y tir. Pa ryfedd fod y gweithiwr tlawd yn deffro i'w hawliau? Ymhen rhai blynyddoedd penodwyd y Royal Commission on Land in Wales and Monmouthshire,[1] a bu hwnnw yn eistedd am yn hir. Holwyd llawer o dystion. Rhaid addef i gryn lawer o welliannau mewn tirddaliadaeth ei ddilyn, ond ni chafodd y tlawd, y dygwyd y mynydd oddi arno, ddim ond cloncwy ar ôl yr holl eistedd. Cymerwyd y mynydd oddi arno. Ni feddai hawl bellach i dorri ychydig o fawn i'w gadw rhag rhynnu yn oerfel y gaeaf, nac i hel llafrwyn i doi ei gaban, nac i ddal gwningen i geisio estyn oes ei wraig pan fo mewn darfodedigaeth, dim cymaint â myned yno i hel corniaid o babwyr i wneud ychydig o ganhwyllau brwyn i ddarllen ei Feibl. Collwyd yr afonydd; ac er i'r brithylliaid fod yn gweiddi ar ei gilydd, "Pa le mae'r gŵr tlawd sydd â'i blant bach yn dihoeni gan eisiau bwyd? Hoffem ni aberthu ein bywyd er eu mwyn" (fel y disgrifiai "Hiraethog" y pysgod ar För Galilea yn holi am rwyd Pedr), nid oes iddo hawl i godi'r un ohonynt. Y cwbl a adawyd yw rhyddid i fyned i ffynnon y pentre i nôl caniaid o ddŵr. Os palla honno â chyflenwi y pentrefi rhaid i'r tlodion dalu'n ddrud am eu dŵr eu hunain o'r mynydd, er i nentydd y mynydd fod yn ymryson â'i gilydd am gyflenwi eu hangen. Yr unig hawl arall a adawyd iddo oedd y gall gerdded y ffordd fawr and gofalu myned i ffos y clawdd a thynnu ei gap pan glyw gerbyd y gŵr a aeth â'i fynydd yn chwyrnellu o'i ôl neu i'w gyfarfod, a pheidio â loetran, neu byddai y plismon yn gafael yn ei war.

Gofynnwyd aml gwestiwn plaen yn y Comisiwn, a chaed atebion, er gwaethaf y tirfeddianwyr, oedd yn profi eu rhaib a'u trahauster uwchlaw amheuaeth. Ond daliai aml un ohonynt i gredu mai eu heiddo hwy y " ddaear a'i chyflawnder."

Mae adroddiad y Comisiwn yn ddiddorol dros ben, yn enwedig i hogyn sydd yn cofio rhannu'r mynydd Rhoddaf ychydig o ddyfyniadau o hanes yr eisteddiadau yn y Bala.

Yn eisteddiad y Bala, Medi 12, 1893, llywydd, Lord Carrington, ysgrifennydd, Mr. [yn awr Syr] D. Lleufer Thomas, bu'r ymddiddan a ganlyn rhwng Mr. Brynmor Jones ac un o dirfeddianwyr Cwm Eithin:—

  1. Royal Commission on Land in Wales and Monmouthshire, Minutes of Evidence, etc. 6 cyf. Llundain, 1894-6.