BOB (o'r tunnel uchaf).-Reit! 'Rwy'-i'n dod, nawr.
Ymhen ennyd daw RICHARD IFANS o'r twnel isaf. Gior tua 60 oed yw, a chanddo wyneb rhadlon, pryfoclyd bron. Gwisg ei got amdano wrth ddod ymlaen. Daw IDWAL, bachgen ifanc tua 30 oed, o'r un man ag ef, ond try yn ei ôl i dynnu ei got oddi ar hoelen mewn coler arall a'i thaflu tros ei ysgwyddau. Daw BOB, crwtyn 16 oed, o'r twnnel uchaf ac á ar ei union i'r man lle y mae DAI a DIC yn eistedd).
DIC (wrth gerdded ymlaen).-Ma' hast arnat-i'r bore 'mal o's e ddim? (Tyn ei watch o'i boced). Pum munud i naw yw hi 'nawr; am naw ym ni'n arfer brecwasta. Mwy o hast i lanw dy grombil, spo, nag i lanw glo heddi' 'to. (Eistedd, ac wrth i BOB gyrraedd atynt). Ti, boi bach, sy'n codi glo i chi'ch dou, iefe? (Wrth fod BOB yn paratoi i eistedd atelir ef a'i gael ar ei ddeulin. Saif IDWAL wrth y coler a'i gefn at y lleill). Dere, gofyn fendith, 'ngwas i. (Cyfyd Dic ei law ar osgo cyhoeddi bendith, a thry DAI ddalen o'i bapur yn ddigon stwrllyd).
BOB (yn syml).-"O Arglwydd, bendithia ein bwyd, i'n cadw yn fyw, i'th wasanaethu Di, er mwyn Iesu Grist.
Amen."
DAI. Du' cato pawb, Dic, 'rwyt-i wrth dy fodd yn twyllo'r plant 'ma. Be' well ma' neb o ofyn bendith, leicwn i w'bod? Nid bod gwahaniaeth gen-i, wada di bant. Ond mi fydde'n well iti adel y crwtyn 'na i roi ei fwyd yn ei grombil na throi am bwyti i ofyn bendith. 'Dwy-i na Idwal byth yn gofyn bendith, a 'dym ni ddim wedi trengi yto, eh Id?