Tudalen:Cwm Glo.djvu/19

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

CWM GLO

cyrens iddo) cymer y bara cyrens ma', alla-i ddim ei gwpla 'fe.

DAI.-Be' gythraul sy'n bod arnat-i? Fe allai dyn feddwl mai ti sy'n 'y nhalu i. (Rhydd ei hun yn esmwyth fel i gysgu spel). 'Rwy-i'n gwneud digon am yr arian 'rwy-i'n gael, myn asen i. Be' well mae neb o chwysu'i enaid maes. Nhw (gan bwyntio at y twnnel ar y chwith uchaf) fydd yn cael y proffits i gyd, ag wfft faint o waith mae nhw'n wneud. Mae Dai yn gwybod digon o bolitics heb weirles na X Y Z i ddeall cymaint â hynny, 'ta- beth. Mi ddes i maes o'r ffas 'na bum munud o'ch blaen chi, a 'nawr 'rwy-i'n cael spel fach, tra bo chi'ch tri'n cwpla. A falle bydd 'y nghare i wedi torri, neu rywbeth, pan fyddwch chi'n mynd 'nol,- a mi ga innau'r minimwm dydd Gwener. Faint mwy gei di, a faint mwy geith Id, ar ôl iddo gaborddylu ei ben?

IDWAL.-'Roedd hynna yn ôl reit 'nôl yn 1919, ond fe gei di dy ddal mor wir a'th fod ti'n fyw.

BOB.-A mi ga innau'r hewl wedyn!!

DAI. 'Y nal! Gyda phwy? Pwy sy'n mynd i 'nal i? Pwy sy'n mynd i wybod mod i wedi cael pum munud fach cyn brecwast? (Dengys y lleill eu diflastod). Un peth leiciwn i 'nawr fyddai pinshed fach o faco. (Tyn focs gwag o'i boced). DIC. 'Oes pinshed fach gen-ti, Dic?

DIC Oes thenciw (ond nid yw yn anelu symud).

DAI (yn stwmp).-Wel der a blewin 'te!

DIC. O dyna gân arall 'nawr. (Chwardd IDWAL a BOB). Pryd prynaist-ti faco ddiwetha, Dai?