Tudalen:Cwm Glo.djvu/23

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

CWM GLO

DAI.-Arnyn'-nhw mae'r bai, nhw ddechreuodd. A mae Bob yn gwybod cymaint a finnau llawn.

DIC. Mae gen-ti ferch fach dy hunan cofia. Pa ddylanwad wyt-i'n ddisgwyl gael arni hi? Druan fach o Mrs. Davies!

DAI. 'Does dim eisiau iti foddrach amdanyn nhw. 'Does neb wedi rhoi hawl iti i fesan yn 'y musnes i, oes e, er dy fod ti'n esgus bod mor dduwiol ac yn gweddio rownd abowt!

DIC. Nagoes, nagoes, ond druain bach ddweda-i, yn dy ofal di.

DAI. Pait di à becso dim am danyn-nhw. Mae nhw'n cael amser go dda. Ca di dy geg amdanyn-nhw.

DIC. A yw Mrs. Davies ddim yn gryf iawn, ond nagyw hi? DAI. Mae'r hen groten yn burion, 'does dim eisiau iti ffysan lot amdani hi. Mae lot o ana'l ynddi hi eto. DIC. A Marged fach, der weld, pedair ar ddeg yw hi 'nawr?

DAI. Nage, pymtheg.

DIC. Mae'n ddrwg gen-i amdani hi.

DAI. Mae hi'n dda ddigon. Tra geill yr hen fenyw, cheith dim un gwyntyn croes ddrysu blewyn o'i gwallt hi. A mae'r cythraul bach yn gwybod sut mae troi ei mam am ei bys bach. Mae Bet Lewis, whâr y manager, yn estyn rhywbeth iddyn'-nhw bob dydd 'ed. Diawst-i, mae hi'n dod yn hen groten fach lân, hefyd, my boi.

DIC.-Edrych ar ei hôl hi, er mwyn Duw, os nad oes gen-ti ddim byd arall i fod yn falch ohono. (Cyfyd, a sefyll