CWM GLO
BOB.-'Rwy-i wedi bod wrthi â'm holl egni syr. (Cilwg oddi wrth DAI).
DAI.-Crwtyn eiddil yw e, a 'dyw e ddim yn credu mewn gweithio'n rhy galed.
LEWIS. Bydd ddistaw. Paid â dweud dim rhagor o gelwyddau, da ti. (Wrth BOB). O'r gorau, 'machgen-i... (â BOB gyda gwên o falchter na wêl y manager mohoni; y mae efe'n galw i'r twnnel arall). Richard Ifans, chwi sy fan 'na, ynte fe? Dowch yma am funud. (Wrth DAI). 'Rwy'n ofni y bydd raid iti fynd, Dai.
DIC.-Hylo, bore da, syr!
LEWIS. Bore da, Dic. Mae yna le go lew fan hyn, oes e ddim? Faint ych chwi wedi wneud y bore 'ma?
DIC. Newydd hela'r ail maes. Mae'r drydedd bron yn wag mewn yna. 'Dyw'r lle ddim yn ffôl. 'Rym ni'n gallu dod i ben ag e'n weddol 'nawr.
LEWIS. Dyna oeddwn innau'n feddwl. A dim ond hon mae Dai wedi lanw. A mae hi'n ddychrynllyd. (Saif pawb am ennyd anesmwyth). Mae'n ddrwg gen-i am Mrs. Davies, ac am Marged fach, ond dyna fe, beth sy gen-i i'w wneud? Gwisg dy got!
DIC. O! Mr. Lewis!
LEWIS.-Beth arall alla-i wneud? Mae Dai yn colli y agos hanner 'i amser-ceffylau a chwrw; mae e anniben, 'dyw e ddim gwerth ei halen; a mae'r hyn mae e'n ei wneud yn fwy o golled na dim arall. Glywaist-i Dai, casgla dy dwls.
DAI. O, fel na, iefe. 'Rwy-i'n eitha bodlon mynd. He, he, he-pwy sens sy mewn gweithio'n henaid