Tudalen:Cwm Glo.djvu/30

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

CWM GLO

oer ag wn i beth. (Wedi ysbaid clywir cnoc trwm diamynedd ar y drws). Dyma hi (a i agor drws y ffrynt). Dere'n un fach i, 'rwyt-i bron sythu.

MARGED (yn dod i mewn o'i blaen dan dynnu cap a chrafat a chot fawr sydd yn rhy fach iddi a'u taflu'n bendra- mwnwgl i'r stol agosaf. Casgl ei mam hwynt a'u hongian yn eu lle priodol tra fydd MARGED yn rhoi ei bysedd yn y llygedyn tân ac yn taflu ei llygaid tros y bwrdd).-Be' sy'n 'ma' i ginio? Dim byd ond bara menyn?

MRS. DAVIES. Ie wir, cariad, 'does yma ddim byd arall i gael. Mi ffeiles i.

MARGED. Hy! 'Does dim blas dod gartre i ginio. Dim byd ond bara menyn (teifl gilwg ar y grat)... a thân digon i godi arswyd ar fwbach. Pam na fuasech chi wedi gwneud cinio heddi?. . . A mae'r got 'na rhy- fach i fi. (Eistedd wrth dalcen y ford nesaf i'r tân). MRS. DAVIES.-Odi, bach. Mi gei di un newydd erbyn yr haf. Cymer y te twym yma 'nawr, i ti gael twymo. MARGED.-Lle mae'r tamaid cig moch 'na oedd ar ôl ddoe? MRS. DAVIES.-Mi rhoes i e ym mocs dy dad. Dim ond hwnnw oedd gen-i i roi iddo fe i frecwast yn y gwaith bore 'ma.

MARGED. Mae fe'n cael y cwbwl. Pam na fuasech chi wedi cadw hwnnw i fi?

MRS. DAVIES (wedi arllwys cwpanaid o de iddi ei hun, yn eistedd wrth ben arall y ford. Tyrr gylffyn o fara. Cyrhaedda bownd o fargarin o'r cwpwrdd. Egyr ef a dodi peth ohono ar y bara, gan gadw'r dafell ar ei phwys). A oes digon o fara menyn gen-ti?