wyd yn flaenorol (tudal. 8,) os byddis yn weddol lwyddiannus a gofalus. Y mae yn eithaf amlwg gan hyny ein bod yn iawn wrth ddywedyd, hyd yn nod pe gwerthid moch bach am 10s. yr un, a phe byddai i'r draul o gadw yr hwch fyned yn fwy nag a amcan-gyfrifir genym, fod er hyny swm mawr o arian yn weddill yn ffafr cadw yr hwch fagu.
Y mae yn eithaf adnabyddus fod y mochyn yn un o'r anifeiliaid goreu am bori, a'i fod yn dyfod yn ei flaen ar bob math o lysiau. Mewn rhai siroedd yn Lloegr cedwir hwy wrth y cannoedd, os nad miloedd, a gyrir hwy beunydd i'r maesydd i bori, neu ynte i ymchwilio am lysiau. Mor belled ag y byddwn yn alluog i godi digon o borfa, rywle o haner cant i bedwar ugain tunell yr acer a chofier na bydd i hwch wedi tyfu i'w chyflawn faintioli fwyta ond llai na chwe' thunell mewn deuddeng mis,) ni ddylai yr un llafurwr fod ar ol am fwyd iddi, am y byddai i glwt bychan o dir roddi digonedd o borfa iddi.
Gwneler prawf ar hyn,—ni bydd y draul ond ychydig; y mae gan y rhan fwyaf o lafurwyr ryw fath o gwt mochyn; ac os nad oes, gellid codi un am o ddwybunt i dair. Gallai gael hwch ieuangc am oddeutu deunaw swllt, ac yna gallai ddechreu. Bydded iddo gadw cyfrif manwl o'i holl dreulion nes y byddo wedi gwerthu ei dorllwyth cyntaf, ac yna gall weled faint a fydd ei enill, a pha un a fydd yn werth iddo fyned yn ei flaen gyda'r gorchwyl ai peidio.
Terfynwn y sylwadau hyn ar hychod magu yn ngeiriau yr un awdwr galluog ag y crybwyllwyd am dano yn flaenorol:
"Un gair at fy nghyfaill y llafurwr, yr hwn y dichon nad oes ganddo un cyfaill i'w gynorthwyo, ond yr hwn sydd yn barod i gynorthwyo ei hun; ac nid oes dim cynorthwy yn debyg i hunan-gymhorth, na phrofiad yn gyffelyb i'r un y rhaid i chwi ei brynu ar draul eich poced eich hun. Dechreuwch yn iawn; adeiladwch gwt priodol, a chedwch hwch fagu iawn, a rhoddwch iddi yr holl sylw a gofal a nodwyd yn flaenorol, ac yr wyf yn credu yn onest y bydd i chwi gael eich hun yn gyfoethocach dyn o ryw £20 neu £25 yn y flwyddyn. Yr wyf yn gwbl