Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AM Y GWAHANOL RYWOGAETHAU O FOCH,
A'U TRINIAETH GYFFREDINOL.

Y mae tri rhywogaeth o foch a brisir yn fwy arbenig nag ereill yn y wlad hon. Y cyntaf ydyw Mochyn Berkshire; yr ail, Mochyn China; a'r trydydd ydyw, Mochyn Essex (y rhywogaeth ddiweddaraf a diwygiedig o'r olaf.) Y rhai hyn hefyd ydynt y rhywogaethau a nodir yn fwyaf amlwg gan brydweddion gwahanol; er fod eu croesi, a neillduolion yn eu porthiant a'u sefyllfaoedd, yn cynyrchu amrywiaethau a wahaniaethant i raddau bychain y naill oddiwrth y llall, braidd yn mhob un o siroedd Lloegr a Chymru.

Y mae Mochyn Berkshire, yr hwn yw gwreiddyn y rhan fwyaf o'r rhywogaethau, o liw cochlyd, ac ysmotiau duon hyd-ddo; clustiau lled fawrion, yn gogwyddo yn mlaen, ond yn sythion; yn ddwfn o ran ei gorph, gyda choesau byrion ac asgwrn bychan. Cyrhaedda i'w lawn faint yn fuan, pesga yn rhwydd, a chyda chyflymdra rhyfeddol hefyd. Y mae y rhywogaeth hon, pan yn cael triniaeth dda, yn tyfu i faintioli dirfawr. Y mae Culley yn crybwyll am fochyn Berkshire, yr hwn a besgwyd gan amaethwr yn sir Gaerlleon, ac a fesurai o flaen y trwyn hyd fôn y gynffon, naw troedfedd ac wyth modfedd; ei uchder yn yr ysgwydd oedd bedair troedfedd a phum' modfedd a haner. Pan yn fyw, pwysau yr anifail anferthol yma 1410 pwys; ac wedi ei lanhau, a'i drin gan y cigydd, pwysai 1215 pwys!

Y mae Mochyn China, a siarad yn gyffredinol, o faintioli bychan. "Y mae y corph," medd awdwr diweddar, "agos yn berffaith grwn yn ei ffurf; y cefn yn gostwng oddiwrth y pen; tra y mae y bol, ar y llaw arall, yn isel, ac mewn rhai tewion o honynt, cyffyrdda braidd â'r ddaear. Y mae y clustiau yn fychain ac yn fyrion, yn tueddu at fod yn haner syth, ac yn gyffredin wedi eu gosod ychydig yn ol; y mae yr asgwrn yn fychan; y coesau yn feinion a byrion; y gwrych prin yn deilwng o'r enw, am eu bod mor feddal, nes y maent yn debycach i wallt; gwyn ydyw eu lliw yn fwyaf cyffredin, du ambell