waith, a brith yn achlysurol. Ystyrir y rhai gwynion yn fwyaf dewisol, ar gyfrif tynerwch rhagorach eu cig. Y mae y wyneb a'r pen yn annhebyg i eiddo unrhyw fath arall o foch, tebygant yn hytrach i wyneb a phen llô; gan hyny, os unwaith y gwelir y rhywogaeth hon, ni anghofir hi yn hawdd. Y mae moch China yn fwytawyr da, cyrhaeddant eu llawn faint yn fuan, a phesgant yn dew ar lai o ymborth, a thrymhant fwy mewn amser pennodol nag unrhyw foch o'r amrywiaethau Ewropeaidd."
Moch Essex.—Y mae y moch a berffeithiwyd, a defnyddio y gair yn derfynol, yn swydd Essex, yn sefyll yn uchel, ar gyfer rhyw ddybenion, yn mysg y rhywogaethau Prydeinig. Dywedir fod y perffeithiad wedi cael ei effeithio trwy groesi rhwng hen fochyn Essex a mochyn Naples; ond y mae yn debyg fod a wnelai mochyn China a Berkshire rywbeth â'r gwellhad. Y mae y mochyn yn cael ei ddysgrifio fel yn meddu clustiau sythion; pen main hir; corph hir a gwastad, gydag asgwrn bychan; y lliw gan amlaf yn ddu, neu ddu a gwyn, a'r croen yn dyner, ac heb ddim blew braidd. Y mae yn fwytâwr cyflym, ond gofyna fwy o gyfartaledd o fwyd nag a ddylai gael, gyda golwg ar y pwysau a gyrhaedda; ac heblaw hyny, dywedir ei fod yn anifail anesmwyth ac anfoddlon. Y mae yr hychod yn epilio yn dda, a chynyrchant dorllwythi o wyth i ddeuddeg o rifedi; ond dywedir nad ydynt ond mammaethod lled wael.
Yn ychwanegol at y tair rhywogaeth uchod, efallai y dylem grybwyll gair am
Yr Hen Fochyn Prydeinig.—Mochyn afrywiog, esgyrniog, gydag ystlysau gwastad, trwyn hir, clustiau lliprynaidd, a gwrych breision a garw, ydoedd hwn. Nid oes neb yn hidio nemawr am dano yn awr. Er hyny, meddai rai rhinweddau—yr oedd o faintioli a chaledwch mawr, ac yr oedd yr hychod yn rhai da am fagu a rhoddi sugn i dorllwythi mawrion; a phan wedi eu pesgi, byddai eu cig yn dda o ran ei ansawdd, a digon o resi cochion trwyddo. Ond nid oedd tueddiad i besgi, modd bynag, yn mysg eu rhagoriaethau; oblegyd er eu bod yn bwyta yn orwangcus, nid oeddynt nac yn magu cig nac yn pesgi mewn cyfar-