yn prysur ddiflanu ac ar fyned, heibio. Y mae y rhywogaethau diwygiedig o foch yn bresenol yn yr Iwerddon mor debyg i foch Lloegr a Chymru fel nas gellir yn 'hawdd wahaniaethu rhyngddynt.
TAIL MOCH.
Pwngc pwysig ydyw hwn gyda golwg ar foch, ac anifeiliaid ereill, o ran hyny hefyd. Gan mai felly y mae, dichon mai gwell i ni wneyd ychydig sylwadau ar y pen hwn, cyn myned yn mhellach. Nid ydyw tail moch yn cael ei gynilo na'i werthfawrogi yn agos mor uchel ag y dylai gael. Y mae yr enill ar besgi mochyn at facwn yn fynych yn cael ei gyfyngu i'r tail a geir; ac oni wneir o goreu o hwn yn mhob ffordd, ni ystyrir fod y gorchwyl o besgi yr anifail ond y nesaf peth i ddim. Ar y pen yma, dywed un awdwr craffus fel y canlyn:-"Hysbysir fi yn barhaus gan weithwyr a llafurwyr y gallant brynu y bacwn yn Lloegr yn llawer rhatach nag y gallant ei gael trwy besgi mochyn eu hunain ar flawd wedi ei brynu. Credir fod pob anifeiliaid a borthir âg ymborth brâs, megys ŷd, blawd, a theisenau olew, yn dychwelyd yn ol un ran o dair o'r draul yn eu tail. Y mae tail mochyn a borthir ar flawd yn werth teirgwaith cymaint ag eiddo mochyn a besgir ar lysieufwyd. Bydd i fochyn a fwytao werth £4 o flawd roddi allan o leiaf werth £1 o dail. Oddiyma y tardd y pwysigrwydd o gadw a dodi allan yn y dull goreu yr hyn yn rhy fynych a adewir i fyned yn wastraff."
AM DDEWIS MOCHYN, GYDA GOLWG AR EI BESGI.
Y moch goreu, gyda golwg ar hychod a baeddod, at besgi, a ddewisir yn ol yr ymddangosiadau canlynol. Dylai fod ganddynt gyrph hirion a mawrion, ochrau a boliau dyfnion, coesau byrion, a chefn llydan, yn orchuddiedig â gwrych cryfion. Ni ddylai fod gan yr hwch ond deg o dethi, neu ddeuddeg yn y man pellaf; a chyda golwg ar eu lliw, y gwỳn neu y goleu ydyw y goreu; y rhai