brithion a ystyrir y gwaelaf, am eu bod yn fwy darostyngedig i'r frech goch.
Ond er mwyn bod yn uniongred ar y pen hwn, ni a ddyfynwn o waith Mr. Richardson, yr hwn sydd wedi talu sylw mawr i fagwraeth moch :
Yn y lle cyntaf, dyfnder digonol yn y corph, a digon o hyd, fel y gallo ymeangu yn ei led. Bydded y lwyn a'r fron yn llydain. Y mae lled y lwyn yn arddangos fod yno ddigon o le i'r ysgyfaint chwareu, a chylchrediad iachus i'r gwaed mewn canlyniad i hyny, yr hyn sydd yn hanfodol at beri i anifail ddyfod yn ei flaen, a phesgi. Dylai yr esgyrn fod yn fychain, a'r cymalau yn feinion. Nid oes dim yn dynodi rhywogaeth uchel yn well na hyn; ac ni ddylai coesau yr anifail fod yn hirach nag a geidw ei fol rhag llusgo hyd y llawr, pan fyddo yn hollol dew.
"Y goes yw y gyfran fwyaf anfuddiol o'r mochyn, ac o ganlyniad nid oes arnom angen am ychwaneg o honi nag a fyddo yn ofynol i gynal y gweddill o'r corph. Edrycher am fod y traed yn gedyrn ac iachus; am fod y bysedd yn gorwedd yn agos at eu gilydd, ac yn pwyso yn wastad ar lawr: hefyd, am fod yr ewinedd yn wastad, sythion, ac iachus.
"Y mae llawer un yn dywedyd nad yw ffurf pen y mochyn ond o ychydig neu ddim pwys, ac y gallai mochyn da feddu pen afluniaidd, nad ydyw o bwys i neb ond i'r anifail sydd i'w gario; ond yr wyf fi yn ystyried fod pen pob math o anifeiliaid yn un o'r prif bethau sydd yn arddangos puredd neu amhuredd y rhywogaeth.
"Canfyddir fod anifail o rywogaeth uchel bob amser yn cyrhaedd llawn dyfiant yn gynt, yn cymeryd cig yn gynarach, ac yn rhwyddach, ac yn fwy buddiol yn mhob peth, nag un o rywogaeth amheus neu amhur; a chan mai fel yna y mae pethau yn bod, yr wyf yn ystyried na ddylai y neb a fyddo yn prynu mochyn fyned heibio i'r pen yn ddisylw.
"Y pen ag sydd debycaf i addaw, neu yn hytrach i ganlyn rhywogaeth dda, ydyw un heb fod yn meddu gormod o asgwrn, heb fod yn rhy fflat ar y talcen, nac yn meddu trwyn rhy hir-yn wir, dylai y trwyn fod yn fyr