mewn golwg, y pyngciau a ddylid edrych am danynt ydynt yn yr hwch, pen bychan a bywiog, bron lydan a dofn, asenau crynion, poten fawr, morddwyd yn cyrhaedd i lawr bron hyd y gàr, lwyn ddofn a llydan, boncluniau mawrion, a hyd mawr yn y corph mewn cyfartaledd i'w uchder. Y mae un nodwedd ag y dylid ei gadw mewn golwg bob amser, ac efallai mai dyma y peth penaf y dylid sylwi arno; sef esgyrn bychain. Bydded y baedd yn llai o faintioli na'r hwch, yn fyrach ac yn fwy cryno yn ei ffurf, gyda gwddf uchel a chryf, llygad bywiog, pen bychan, cig cadarn a chaled, a'i wddf wedi ei orchuddio â chryn lawer o wrych: o berthynas i bethau ereill, edrycher am yr un pyngciau ag a ddysgrifiwyd wrth son am yr hwch.
"Y mae epilio mewn terfynau rhy gyfathrachol, neu epilio o fewn cylch yr un rywogaeth, yn dueddol i gynyrchu bychander maintioli, ac hefyd i niweidio ffrwythlondeb yr anifail; gan hyny, dylid ei ochel. Ond yr wyf yn gwybod fod rhai epilwyr yn dal nad yw y croesiad cyntaf yn niweidiol mewn un modd, ond ei fod yn y gwrthwyneb yn cynyrchu epil ag ydynt yn dueddol i gyrhaedd llawn dyfiant yn gynt, ac i besgi yn rhwyddach. Gall hyn fod mewn rhai engreifftiau; y mae felly mewn da corniog; ond mor bell ag y mae a fyno moch â'r peth, nid wyf wedi cael prawf o hyny fy hunan, ac yr wyf yn glynu o hyd wrth y cynghor a roddais. Y mae gwahaniaeth barn hefyd o berthynas i'r oedran i ddechreu epilio; bydd i foch ddechreu epilio, os caniateir iddynt, yn yr oedran cynar o chwech neu saith mis; ond ni ddylid cefnogi yr arferiad yma. Fy nghynghor i ydyw, bydded y fenyw o leiaf yn flwydd oed, a'r gwryw o leiaf yn ddeunaw mis; ond os bydd y flaenaf wedi cyrhaedd ei hail flwyddyn, a'r olaf ei drydedd, gellir dysgwyl torllwyth cryfach a lluosocach."
Y mae awdwr profiadol arall yn ysgrifenu fel y canlyn. ar y pwngc hwn:—"Y mae yr hwch yn dra epilgar, os cymharir hi âg anifeiliaid mawrion pedwartroediog ereill, ac ar gyfer hyny y mae wedi ei darparu âg o ddeuddeg i un ar bymtheg o dethi. Amser ei beichiogrwydd yw un