wythnos ar bymtheg; y mae nifer y rhai bach yn amrywio cryn lawer, byddant yn fynych yn llai na deg, ac yn achlysurol mor uchel ag ugain. Y mae y porchellyn yn dra thyner; ac ni ddylid caniatâu i hwch fagu borchella yn y gauaf, ond bob amser yn y gwanwyn a'r hydref, pan y mae y tywydd heb fod mor oer ac ymborth yn fwy helaeth. Y mae perygl arall yn aros y torllwyth, ar gyfrif tueddion cig-fwytaol y fam, y rhai a barant iddi weithiau anghofio rhwymedigaethau mam, a naturiaeth hefyd, a difa ei hepil ei hun! Gan hyny, dylid ei gwylio yn ofalus, a'i phorthi yn helaeth ar yr adegau hyny. Rhaid i'r baedd, o herwydd yr un achos, gael ei gadw draw o gwbl. Drachefn, nid anfynych y llethir y rhai bach i farwolaeth gan y fam, am eu bod yn ymgladdu o'r golwg yn y gwellt; ac er rhagflaenu hyny, ni ddylid rhoddi ond ychydig wellt, a hwnw yn sych a bỳr, odditanynt. Diddyfnir y perchyll yn chwe' wythnos oed; ac wedi eu diddyfnu, dylid eu porthi â blawd a llaeth, neu ynte flawd a dwfr.
"Y mae lluaws o bobl yn meddwl y dylai hychod gael eu cadw yn deneu tra yn epilio; ond cyfeiliornad mawr ydyw hyny; canys wedi i hwch ddyfod a pherchyll, bydd i ran fawr o'r noddau a dröid yn llaeth, pe byddai mewn cyflwr da, fyned yn naturiol at faethloni ei chyfansoddiad.
"Pan fyddo arnoch eisiau y perchyll at eu pesgi, bydded i chwi dori ar y rhai gwryw, a dyspaddu y rhai benywaidd, yr hon orchwyliaeth sydd yn berffaith gyfatebol. Dylid ymddiried y gweithrediadau hyn bob amser i feddyg anifeiliaid, neu ryw berson cymhwys arall, os na byddwch yn gwbl feistr ar y gorchwyl hwnw eich hunan.
"Ar adeg diddyfnu y perchyll, arferir eu modrwyo; sef dodi modrwy haiarn yn madruddyn y trwyn, i rwystro i'r anifail durio a thori i fyny lawr y cwt mochyn. Y mae yr orchwyliaeth hon yn afreidiol mewn moch y bwriedir eu troi allan i'r coedwigoedd neu y caeau; ond lle y byddo yn ofynol, y mae yn fwy dewisol na'r drefn farbaraidd ac aneffeithiol o dori ymaith y madruddyn."
Yr ydym wedi bod yn lled fanwl gyda'r pwngc o epilio