rhês briodol o sheds, buarthau, a chafnau bwyta; ac heblaw ysbwrial a golchion cymysg y fferm, codir cnydau geirwon o bytatws, cabaits, moron, a maip Sweden, gogyfer a'r moch.
Dechreuir ar y gorchwyl o besgi moch tua mis Medi, pa un bynag ai at borc ai bacwn y bwriadwyd hwy. Os at borc, ni ddylid eu pesgi mor dewion. Yn y naill amgylchiad a'r llall, rhaid iddynt gael ymborth maethlon; yr unig ragocheliad ydyw peidio dechreu porthi yn rhy gyflym, onidê gellir eu syrffedu. Y defnyddiau goreu at borthi ydyw haidd a blawd pŷs; ac os gellir rhoddi llaeth iddynt ar yr un pryd, naill ai wedi ei ysgumio neu ei gorddi, bydd yn llawer haws eu porthi, a gwellheir ansawdd y cig hefyd. Y mae llawer iawn o bobl yn porthi eu moch ar bytatws; ond yn yr amgylchiad hwn nid yw y cig mor galed a rhagorol, ac y mae y brasder yn lled rydd a llipa.
Gall bwyd meddal wneyd y tro yn burion foch pan fyddont yn tyfu, ond nid dyna yr ymborth a roddir iddynt pan besgir hwy at eu lladd. Y mae y rhai a besgant foch at eu gwasanaeth eu hunain yn gyffredin yn rhoddi iddynt ddogn neu ddau o geirch yn feunyddiol am bedwar diwrnod ar ddeg cyn eu lladd, ac ni roddant iddynt ond llaeth wedi ei ysgumio neu ei gorddi i'w yfed; a'r diwrnod cyn ei ladd, ni ddylai y mochyn gael math yn y byd o ymborth.
Pan na byddo amgylchiadau rhyw rai yn hyfforddio iddynt ddylyn yr un o'r cynlluniau a nodwyd o borthi at ladd, gellir defnyddio pytatws wedi eu berwi, a'u cymysgu â dyrnaid neu ddau o flawd ceirch, yn eu lle.
Ond er yr hyn a nodwyd uchod, nis gellir gwadu nad ydyw y Gwyddelod yn magu porc rhagorol trwy borthi moch a phytatws, a hyny braidd yn gwbl. Nid ydyw mor frâs a'r porc a gynyrchir trwy borthi â phŷs a haidd, ond y mae, ar y cyfrif hwnw, yn well at ystumog ag sydd yn anghynefin âg ymborth cryf. Y mae maip Sweden, moron, ac ŷd wedi ei friwsioni, ynghydag ychydig flawd pŷs neu ffa, yn ymborth rhagorol at besgi moch, a gellir