Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

droedfedd pa nifer o droedfeddi ydyw mewn amgylchedd; yna, gyda'r llinyn, mesurwch o asgwrn bôn y gynffon, a chyfeiriwch y llinyn ar hyd y cefn at y parth blaen o'r balfais; cymerwch y mesur fel o'r blaen ar ddwy droedfedd, a dyna yw ei hyd. Yna gweithiwch y ffugyrau yn y dull canlynol:—

Amgylchedd y mochyn, 2 droedfedd,
Ei hyd ar y cefn, 2 droedfedd,

yr hyn o'i luosogi gyda'u gilydd a wna bedair troedfedd ysgwâr. Lluosogwch hyny drachefn gydag 11, yr hyn ydyw y nifer o droedfeddi a ganiateir ar gyfer pob troedfedd ysgwâr mewn anifeiliaid yn mesur llai na thair troedfedd o amgylchedd, a gwna 440 bwysi, yr hyn yw pwysau y mochyn.

Drachefn tybiwch fod mochyn yn mesur 4 troedfedd a chwe' modfedd o amgylchedd, a thair troedfedd a 9 modfedd o hyd ar y cefn—y mae hyny wedi eu lluosogi â'u gilydd yn gwneyd 16 o droedfeddi ysgwâr; ac wedi Iluosogi hyny gyda 16, yr hyn yw y nifer o bwysi a ganiateir i bob anifeiliaid a fesurant lai na 5, a mwy na 3 troedfedd mewn amgylchedd, a wna 264 o bwysi, sef pwysau y mochyn.

MODRWYO MOCHYN.

Yr ydym wedi son o'r blaen am fodrwyo mochyn, ond ein dyben yn awr ydyw galw sylw at fodrwy o fath newydd a ddefnyddir yn awr i'r pwrpas hwnw, ac a elwir y "Jewel Pig Ring." Ceir allan mai hon ydyw y fodrwy fwyaf syml, esmwyth, a pharhaol a fu erioed yn nhrwyn mochyn. Gellir dywedyd mewn gwirionedd am y fódrwy hon, "Unwaith wedi ei fodrwyo, wedi ei fodrwyo am byth." Pan y mae unwaith wedi ei gosod yn iawn yn nhrwyn y mochyn, y mae yn gwbl amhosibl iddo durio na throi i fyny y ddaear, ac nis gellir dywedyd hyny am lawer iawn o fodrwyau a ddefnyddir yn gyffredin. Nid yw yn peri dim poen, ond yn unig pan fyddo yr anifail yn turio y ddaear. Byddai yn dda i berchenogion moch gadw nifer o'r modrwyau hyn wrth law yn wastad yn ei tai, yn barod at angen.