mlaen. Ar y cwbl gosoder bwrdd neu blangc, a phwysau trymion neu geryg mawrion ar dop yr oll. Yn mhen tair wythnos neu fis, bydd y cig wedi halltu digon, a achroger ef i fyny ar fachau yn nhylythau y gegin. Y mae yr arferiad gyffredin o losgi coed a mawn mewn ceginau lle y mae nerobau o gig moch wedi eu hongian fel hyn, yn rhoddi i'r bacwn ryw felusder nad ellir byth ei gael mewn peth a brynir am arian.
Dull arall sydd fel y canlyn:—Parotowch bicl, trwy ferwi halen cyffredin a nitre mewn dwfr; cymysgwch, at un mochyn o faintioli canolig, un pwys o siwgr coch brâs gyda haner pwys o nitre, a thrwy gymysgu yr oll o'r siwgr a'r nitre ag y bydd arnoch ei eisiau ar y dechreu, bydd i chwi atal iddo gael ei ladrata gan weision a morwynion, a phlant; rhwbiwch hwn i mewn iddo yn dda gyda'r fan eg halltu; yna rhowch y cig yn y picl, a gadewch iddo orwedd ynddo am ddeuddydd; ar ol hyny cymerwch ef allan o'r picl, a rhwbiwch ef gyda dim ond halen; yna rhoddwch ef yn ei ol yn y picl.
At giwrio cig y mochyn yn dyner:—Ffurfiwch bicl melus trwy ferwi triagl gyda halen a dwfr; rhwbiwch y cig gyda siwgr a nitre; ychwanegwch ychydig o bicl cryf at y cig; rhoddwch y cig yn hwn, a gadewch ef i orwedd ynddo am dair wythnos. Os bydd ychwaneg o le yn y cask, llenwch ef i fyny â thriagl. Bydd i wyth pwys o halen, un pwys o nitre, a chwe' pheint o driagl, fod yn rhywbeth tua digon at bob can'pwys o gig, a chymer oddeutu pum' galwyn o ddwfr. Yn mhen oddeutu tair wythnos y mae mwy neu lai o amser yn angenrheidiol yn ol maintioli y mochyn—tynwch y cig allan o'r picl, a chrogwch ef yn y tŷ sychu. Tra yn y tŷ sychu, dylai y nerobau gael eu hongian a'r gwddf i lawr. Gellwch dori allan yr ham, a thrimio y nerob, yn ol eich chwaeth elch hun. Y mae gan braidd bob sir ei dull ei hun o wneuthnr hyn. Yna, os bydd genych y moddion, symudwch eich hams a'ch bacwn i'r tŷ mygu. Ni ddylid gadael iddynt gyffwrdd y naill yn y llall. Ond cymeryd gofal am hyn, gellwch eu hongian mor agos at eu gilydd ag y dymunoch.