Y mae tai mygu o bob maintioli, ond y mae y rhai lleiaf o honynt yn ateb y dyben yn gystal a'r rhai mwyaf. Cyn hongian y cig yn y tŷ mygu, dylai gael ei rwbio drosto yn dda â bran. Gwneir y tân o flawd llif, yr hwn a losga yn araf, gan roddi allan fwy o fwg nag o fflamau. Yn yr orchwyliaeth o fygu, bydd i'r cig golli rhwng pymtheg ac ugain pwys y cant—y mae hon yn ffaith ag y dylid yn wastad ei chadw mewn cof.
Dyry Kinnaird B. Edwards y cyfarwyddyd a ganlyn o berthynas i biclo neu giwrio hams;
"Cymerwch o Bay salt, un pwys,
Saltpetre, tair owns,
Halen cyffredin, haner pwys,
Triagl, dau bwys.
Y mae hyn yn ddigon at ddwy ham o 14 i 16 pwys bob un; dylent fod yn y picl am dair wythnos neu fis. Dylid troi yr hams yn rheolaidd yn y picl, a bwrw y gwlych drostynt.
Wrth giwrio hams neu facwn yn gyffredin, y mae yn ddymunol defnyddio yr un swm o soda cyffredin ag o saltpetre, owns a haner at bob 14 pwys o ham neu facwn, gan ddefnyddio yr un swm o halen ag a nodir uchod. Y mae y soda yn atal y caledwch hwnw a geir mor aml yn nghig coch y bacwn, ac yn ei gadw yn iraidd drwyddo. Y mae y cyfarwyddyd yma wedi cael ei ddefnyddio gan rai o brif housekeepers y deyrnas."
Weithiau lleddir y moch cyn eu bod wedi cyrhaedd llawn faintiolaeth, a thynir ymaith eu gwrych trwy eu deifio; dywedir fod bacwn a hams y rhai hyn yn meddu blas ac arogl anarferol o dyner a moethus.
Y blawd llif goreu at fygu hams ydyw yr hwn a geir oddiwrth dderw, a dylai fod yn drwyadl sych. Y mae y blawd llif a geir oddiwrth ffawydd cyffredin yn rhoddi blâs annymunol ar y cig, rywbeth heb fod yn annhebyg i benwaig cochion.
Y mae bacwn Wiltshire o ansawdd tra danteithiol, ond y mae yr achos o hyny yn amlwg, ac nid ydyw i'w briod-