Y prif niweidiau ag y mae bacwn, ar ol cael ei giwrio, yn ddarostyngedig iddynt, ydyw y tueddiad i ddyfod yn rusty, neu o flâs drwg a sychlyd; bryd arall, y mae yn cael ei orchuddio âg wyau rhyw wybed bychain a elwir yn gyffredin yn jumpers. Y mae y peth cyntaf yn dygwydd yn fynych os bydd i'r cig gael ei sychu yn rhy agos at y tân, neu gael ei amlygu yn ormodol a diangenrhaid i effeithiau yr awyr Wrth sychu y cig, dylai fod mor agos i'r tân fel ag i deimlo ei ddylanwad-ac mor bell oddiwrtho fel ag i atal iddo ffrio, a dyfod i feddu ar flas drwg, nes derbyn yr enw cyffredin, "bacwn rusty."
Y mae rhai yn cynghori gwyngalchu y bacwn gyda dwfr calch ar ol i'r cig sychu, ac y mae hyn yn ddiau yn rhagflaeniad sicr a phenderfynol; ond gellir atal yr aflwydd yn llawn cystal trwy giwrio y cig â bran plaen, neu unrhyw sylwedd iachus arall a geidw yr awyr oddiwrtho.
Nid yw yn angenrheidiol dyweyd llawer am y jumpers, heblaw crybwyll, pe byddai i'r bacwn gael ei orchuddio gyda sach, nen ryw ddefnydd arall a fyddo wedi ei wau yn glòs, ni bydd y gwybed a ddodwyant yr wyau yn alluog i fyned i mewn at y cig, ac o ganlyniad dodent yr wyau yn y sach. Y mae bacwn a fyddo yn noeth, mewn sefyllfaoedd darostyngedig i gael effeithio arno a'i wlychu, trwy gyfnewidiadau yn lleithder yr awyr, braidd yn sicr gael ei orchuddio âg wyau y jumpers. Ond yn ffodus, nid ydynt o ryw bwys mawr; oblegyd y mae bacwn, lle y byddont yn bodoli, yn gyffredin o'r blas goreu a mwyaf danteithiol.
Wrth derfynu, goddefer i ni ddywedyd, fod llawer llai wedi cael ei siarad a'i ysgrifenu am y mochyn nag y mae yn ei deilyngu. Y mae yn gyrhaeddadwy i'r rhai na feddant y manteision i gadw unrhyw anifail arall. Gall unrhyw ddyn, er heb feddu troedfedd o dir, mewn ychydig amser gynyrchu y rhywogaeth oreu o foch, a magu a chiwrio ei facwn ei hun. Mor belled a hyny y mae yn gwbl annibynol ar ereill am un o brif ddanteithion y bwrdd.